Cafodd y Dreigiau grasfa o 56-17 yng Nghwpan Her Ewrop yn Ashton Gate heno, wrth i Fryste gyrraedd pedwar ola’r gystadleuaeth.

Bydd y Saeson yn herio naill ai Bordeaux-Begles neu Gaeredin ar ôl y fuddugoliaeth swmpus.

Aeth y Dreigiau ar y blaen yn gynnar wrth i Ashton Hewitt groesi am gais, ond roedd Bryste yn rhy gryf, wrth i Ben Earl groesi ddwywaith, tra bod Nathan Hughes, Semi Radradra, Chris Vui, Max Malins a Dan Thomas hefyd groesi’r llinell.

Daeth tri o’r ceisiau o fewn chwe munud i roi’r pwysau ar y Dreigiau.

Daeth cais yn gynnar yn yr ail hanner i Rhodri Williams ond roedd yn ofer i’r Dreigiau ar noson ddigon siomedig oddi cartref, wrth i Callum Sheedy hefyd lwyddo i gicio chwe throsiad a thair cic gosb i orffen gyda 21 o bwyntiau.

Ciciodd Sam Davies ddau drosiad a chic gosb i’r rhanbarth Gymreig.