Mae Cymdeithas Bêl-droed yn dweud mewn datganiad eu bod nhw’n “fodlon” fod Cei Connah “wedi dilyn pob protocol COVID-19” cyn eu gêm ragbrofol yn erbyn Dinamo Tblisi yng Nghynghrair Ewropa nos Iau (Medi 17).

Profodd tri chwaraewr yn bositif ar gyfer y coronafeirws cyn y gêm yn dilyn profion gorfodol a gafodd eu cynnal gan UEFA, ac fe fu’n rhaid iddyn nhw gadw draw o weddill y garfan.

Daeth hi’n amlwg fod chwaraewr arall wedi dod i gysylltiad â’r tri, ac fe fu’n rhaid iddo fe hefyd ynysu cyn y bydd rhaid iddo fe gael prawf arall.

Dywed y Gymdeithas Bêl-droed fod meddyg y clwb wedi dilyn y drefn genedlaethol gywir gan hysbysu’r awdurdodau priodol lle mae’r chwaraewyr yn byw, er mwyn dilyn y drefn olrhain cysylltiadau.

Dywed y Gymdeithas fod y clwb hefyd wedi dilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ac UEFA er mwyn cynnal y gêm yn ddiogel ar ôl i’r profion positif ddod i’r fei.

Fe wnaeth yr holl chwaraewyr, staff a swyddogion gwblhau holiadur iechyd dyddiol cyn y gêm, ac fe ddilynodd y clwb yr holl ganllawiau yn y stadiwm, gan gynnwys gwirio tymheredd y chwaraewyr a chwblhau’r holl waith papur priodol.

Fe wnaeth swyddogion y Cae Ras a Chlwb Pêl-droed Wrecsam hefyd sicrhau bod y trefniadau priodol yn eu lle, ac roedd swyddogion y Gymdeithas Bêl-droed ac UEFA yn y stadiwm ar noson y gêm i weinyddu pob protocol.

Wfftio sylwadau’r rheolwr

Fe wnaeth y Gymdeithas Bêl-droed geisio sylwadau pellach gan Glwb Pêl-droed Cei Connah ar ôl i’r rheolwr Andy Morrison wneud sylwadau am y sefyllfa wrth siarad â’r wasg.

Dywedodd fod yn rhaid i’r clwb anwybyddu cwynion y tri oedd yn teimlo’n sâl am fod y gêm yn un fawr i’r clwb.

Ond dywed y Gymdeithas fod ei sylwadau’n groes i’w safbwynt nhw fod pob protocol wedi cael eu dilyn yn gywir gan y clwb, a’u bod nhw’n ystyried a yw’r sylwadau’n groes i’w rheolau’n ymwneud â dwyn anfri ar y gêm – rhywbeth y gallai’r clwb hefyd benderfynu cynnal ymchwiliad iddo.