Mae Neil Harris, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud y bydd meddylfryd ei chwaraewyr yn “allweddol” wrth iddyn nhw geisio buddugoliaeth gynta’r tymor ar ôl diwrnod cyntaf siomedig yn eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth.

Maen nhw’n teithio i Nottingham Forest ar ôl colli o 2-0 gartref yn erbyn Sheffield Wednesday yr wythnos ddiwethaf.

Serch hynny, fe allai fod yn adeg dda i herio Forest, oedd hefyd wedi colli yn erbyn QPR ar y diwrnod cyntaf.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr ati,” meddai Harris.

“Mae’n gêm wych.

“Bydd Forest yn amlwg wedi siomi ar ôl y golled yn erbyn QPR yr wythnos ddiwetha’ hefyd.

“Felly byddan nhw’n chwilio am eu pwyntiau cyntaf yn nhabl y gynghrair, yr un fath â ni.

“Gawson ni ddwy gêm dda iawn yn eu herbyn nhw y tymor diwethaf, gemau agos a chael a chael oedd hi rhyngom ni a nhw tua diwedd y tymor.”

‘Llechen lân a meddylfryd i ennill’

Yn ôl Neil Harris, bydd e’n gofyn am ddau beth cyn y gêm, sef llechen lân a meddylfryd fydd yn galluogi’r tîm i ennill.

“Rydyn ni wedi siarad yr wythnos hon ac ar ôl y gêm ddiwethaf am feddylfryd,” meddai.

“Efallai clirio’r meddwl a dangos y ffocws sydd gyda ni’n dalpiau ers i fi ddod i mewn.

“Mae’n fater o gael meddylfryd i gadw llechen lân a meddylfryd i fynd gam ymhellach, a gwneud yn well na’r gwrthwynebwyr wrth redeg a brwydro.

“Mae meddylfryd yn allweddol i ni.

“Rydyn ni wedi colli un gêm gynghrair, ond dydych chi byth eisiau colli’r un gyntaf.

“Mae ffocws wedi bod yn destun trafod mawr ar y cae ymarfer ac mae’r chwaraewyr yn gwybod beth yw’r gofynion a byddan nhw’n gwella, heb amheuaeth.”