Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud bod angen i Joe Rodon chwarae’n gyson er mwyn rhoi’r gyfres o anafiadau y tu ôl iddo.

Mae’r Elyrch yn croesawu Birmingham i Stadiwm Liberty heddiw (dydd Sadwrn, Medi 19) ar ôl cipio’r triphwynt oddi cartref yn Preston ar ddiwrnod cyntaf tymor y Bencampwriaeth yr wythnos ddiwethaf.

Mae Rodon, yr amddiffynnwr canol o Langyfelach, wedi dioddef o sawl anaf dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys un i’w ffêr sydd wedi bod yn broblem iddo ers tro.

Ond mae Steve Cooper yn dweud ei fod e wedi gwella’n llwyr erbyn hyn ac yn edrych ymlaen at rediad hir yn y tîm.

“Pan wnaethon ni ddychwelyd, roedd e i mewn yn ôl ei arfer felly yn nhermau ei anaf, croesi bysedd fod pethau’n dda iawn,” meddai.

“O ran ei ffitrwydd, mae e wedi gwneud yr un fath â phawb arall.

“Dydy e ddim yn rhywbeth rydyn ni wedi’i drafod ers sbel, mae popeth yn dda hyd yn hyn a gobeithio y bydd hynny’n parhau.”

Seibiant yn ystod gemau Cymru

Yn ôl Steve Cooper, roedd y seibiant yn ystod y ffenest ryngwladol o fudd i Joe Rodon, ac mae’n cytuno bod y rheolwr Ryan Giggs wedi gwneud y peth iawn wrth ei hepgor.

“Fydden ni byth yn ei atal e rhag mynd pe bai e’n cael ei ddewis ond ac yntau heb chwarae ers y gêm yn erbyn West Brom ym mis Mawrth, byddai wedi bod yn benderfyniad mawr i fynd a chwarae pêl-droed ryngwladol,” meddai.

“Penderfyniad Ryan oedd e, yn amlwg, fe sy’n dewis y garfan ond mae e wedi galluogi [Joe Rodon] i barhau i adeiladu ei ffitrwydd a dod yn ôl i rythm ymarfer a chwarae mewn gemau.”

Gofal piau hi?

Does dim angen i Joe Rodon fod yn or-ofalus y tymor hwn yn sgil yr anafiadau, meddai Steve Cooper.

“Dyna’r peth diwethaf sydd ei angen ar Joe,” meddai.

“Mae e wedi cael sêl bendith yn llwyr gan y staff meddygol i chwarae.

“Chwaraewr ifanc yw e, mae’n 22 oed.

“Er lles cynnydd Joe, mae angen cyfnod hir iawn arno fe yn y tîm a chael chwarae pob gêm os yw e am fynd yn ei flaen i gyflawni’r potensial rydyn ni i gyd yn gwybod sydd ganddo fe.

“Dydy hi ddim fel pe bai e’n chwaraewr hŷn lle mae angen ei reoli o ran gorffwys yn ystod rhai gemau neu orffwys am rai diwrnodau.

“Dw i’n gwybod ei fod e wedi bod yn anlwcus o ran anafiadau ond mae e wedi gwella’n llwyr ar eu hôl nhw.

“Dydy hi ddim fel pe bai e’n dychwelyd ar ôl anaf sy’n ddifrifol iawn, iawn lle allwch chi ddim ond chwarae am hyn a hyn o amser.

“I’r gwrthwyneb, pe baech chi’n siarad â fe, byddai’n dweud ei fod e’n teimlo’n gryfach ac yn fwy ffit nag erioed.

“Dw i ond yn gobeithio y caiff e rywfaint o lwc nawr oherwydd mae’r anafiadau gafodd e yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anafiadau trwy gyswllt yn fwy na dim arall.

“Gobeithio y daw lwc i’w ran e am gyfnod nawr oherwydd byddwn ni i gyd yn elwa o hyn, yn enwedig fe ei hun.”