Mae pryderon na fydd Gareth Bale ar gael am fis pe bai’n symud ar fenthyg o Real Madrid i Spurs dros y dyddiau nesaf.

Mae e wedi glanio yn Llundain yn barod i lofnodi cytundeb i ddychwelyd i’w hen glwb ar fenthyg ar ôl cyfnod cythryblus ym mhrifddinas Sbaen.

Cafodd e brawf meddygol cyn hedfan o Sbaen.

Gadawodd e Spurs am Real Madrid am £85m yn 2013 ond mae’n annhebygol bellach y bydd e ar gael am unwaith oherwydd yr anaf i’w benglin.

Mae lle i gredu y bydd Real Madrid yn talu canran fawr o’i gyflog yn ystod ei gyfnod ar fenthyg, ond mae Joe Mourinho, rheolwr Spurs, yn gwrthod trafod y sefyllfa.

Mae’r Cymro wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr bedair gwaith gyda Real Madrid, ond mae anghydfod â’r rheolwr Zinedine Zidane yn golygu ei fod e wedi bod ar y fainc am gyfnodau hir yn ddiweddar.

Fe allai’r trosglwyddiad fod wedi dod ar adeg dda i Spurs, sydd wedi bod yn siomedig o flaen y gôl yn ddiweddar, wrth golli o 1-0 yn erbyn Everton, ac roedd angen dwy gôl hwyr arnyn nhw i guro Lokomotiv Plovdiv yng ngêm ragbrofol Cynghrair Europa.