Sgoriodd Kieffer Moore ddwy gôl wrth i Gaerdydd guro Nottingham Forest oddi cartref o 2-0.

Daeth y gôl gyntaf oddi ar ben ymosodwr Cymru o gic gornel o fewn tair munud.

Dyblodd e fantais ei dîm a nifer ei goliau ei hun yn y gêm wrth rwydo cyn yr egwyl wrth i Forest fethu ag amddiffyn croesiad i mewn i’r cwrt cosbi.

Mae’r canlyniad yn ychwanegu at y pwysau sydd ar reolwr Forest, Sabri Lamouchi, gyda’i dîm wedi colli dwy gêm gynta’r Bencampwriaeth.

Ond mae’n arwydd o welliant i dîm Neil Harris ar ôl iddyn nhw hefyd golli ar y diwrnod agoriadol yr wythnos ddiwethaf.

Mae Caerdydd wedi curo Forest yn eu chwe gêm gynghrair diwethaf oddi cartref bellach – rhediad gwaethaf Forest yn erbyn unrhyw wrthwynebydd yn eu hanes.