Mae John Kear, hyfforddwr tîm rygbi’r gynghrair Cymru, wedi croesawu penderfyniad Gavin Henson i symud o rygbi’r undeb i ymuno â Raiders Gorllewin Cymru.

Fe fydd e ar gael i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd y flwyddyn nesaf, er y bydd e’n 39 oed erbyn hynny.

Mae’r Raiders yn chwarae yn Llanelli, ac fe wnaethon nhw orffen ar waelod yr Adran Gyntaf yn 2019, gydag un fuddugoliaeth yn unig mewn 20 o gemau.

“Dw i’n credu ei fod e’n drosglwyddiad enfawr i dîm yn yr Adran Gyntaf,” meddai.

“Bydd ei enw ar ei ben ei hun yn ddigon i gael digon o gyhoeddusrwydd yng Nghymru.

“Pe bai e’n chwarae, bydd e’n denu torf hefyd a dw i’n gwybod o fod yng Nghymru ac o gwmpas y wlad fod ganddo fe statws Duw.”

Gavin Henson heb ymddeol

Er ei fod e wedi gadael y Dreigiau ar ddiwedd y tymor diwethaf, wnaeth Gavin Henson ddim ymddeol o’r byd rygbi.

Ac mae’r Raiders yn mynnu bod y trosglwyddiad yn fwy na dim ond ‘stynt’ gyhoeddusrwydd.

Roedd e’n aelod o dîm Cymru enillodd y Gamp Lawn yn 2005 a 2008, ac yn aelod o garfan y Llewod yn Seland Newydd yn 2005.

Ond dydy e erioed wedi chwarae yng Nghwpan y Byd.