Rhwydodd Ryan Taylor am yr ail waith mewn dwy gêm i sicrhau buddugoliaeth i Gasnewydd o 2-1 dros Barrow yn yr Ail Adran yn Rodney Parade.
Aeth yr Alltudion ar y blaen drwy Liam Shephard yn gynnar yn y gêm, ar ôl i Barrow fethu ag atal croesiad gan Ryan Haynes.
Roedd y sgôr yn gyfartal 1-1 cyn yr egwyl pan darodd Lewis Hardcastle chwip o ergyd o ymyl y cwrt cosbi.
Ond camgymeriad amddiffynnol arweiniodd at y gôl fuddugol, wrth i Taylor fanteisio ar bêl rydd a’i tharo hi heibio’r golwr Joel Dixon.