Gornest ddi-fflach gafwyd yn y gêm gynghrair gyntaf yn Stadiwm Liberty wrth i Abertawe a Birmingham orffen yn gyfartal ddi-sgôr yn y Bencampwriaeth.

Yr Elyrch gafodd y gorau o’r meddiant ar y cyfan, ond arhosodd amddiffyn yr ymwelwyr yn gadarn, fel sy’n nodweddiadol o dimau’r rheolwr Aitor Karanka.

Daeth y cyfleoedd gorau i Morgan Gibbs-White, Ben Cabango a Marc Guehi.

Tarodd Gibbs-White ergyd yn syth at y golwr, tra bod Cabango wedi penio’r bêl heibio’r postyn o gic gornel yn yr hanner cyntaf.

Ergydiodd Guehi yn isel tua’r diwedd wrth i’r golwr atal gôl fuddugol.

Dyma’r ail lechen lân i’r Elyrch mewn dwy gêm, wrth i Freddie Woodman wrthsefyll ergydion gan Jon Toral a Harlee Dean.

Mae’r Elyrch bellach yn ddi-guro mewn saith gêm yn erbyn Birmingham.