Daeth y Gwyddel Andrew Balbirnie yn agos iawn at fod y chweched batiwr yn hanes Morgannwg i daro canred mewn gêm ugain pelawd, wrth i’r sir guro Swydd Gaerloyw o 17 rhediad yn y Vitality Blast yng Nghaerdydd.

Tarodd e 99 heb fod allan, y sgôr ugain pelawd uchaf erioed gan fatiwr Morgannwg yng Nghaerdydd, i osod y seiliau wrth i’r sir sgorio 188 am bedair.

Roedd ei fatiad yn cynnwys 11 pedwar a thri chwech.

Adeiladodd e bartneriaethau allweddol o 61 am yr ail wiced gyda David Lloyd, a 79 di-guro gyda’r capten Chris Cooke am y bedwaredd wiced.

Mae’r golled yn golygu bod rhaid i Swydd Gaerloyw aros tan ddydd Sul, pan fyddan nhw’n herio’u cymdogion Gwlad yr Haf, i ddarganfod a fyddan nhw gartref yn eu gêm wyth olaf.

Gwnaeth Morgannwg dri newid i’r tîm a gollodd yn drwm echnos yn erbyn Gwlad yr Haf yng Nghaerdydd – y Cymro Cymraeg Owen Morgan, Callum Taylor a Marchant de Lange i gyd yn ildio’u llefydd, a Kiran Carlson, Dan Douthwaite a Graham Wagg i mewn yn eu lle.

Manylion y gêm

Cyrhaeddodd Morgannwg 51 am un yn y cyfnod clatsio wrth i’r agorwyr David Lloyd a Nick Selman daro ergyd yr un i’r ffin, cyn i Selman dynnu at y maeswr ar y ffin ar ochr y goes.

Ond parhau i glatsio wnaeth Balbirnie, wrth i Swydd Gaerloyw droi at y bowlwyr lled-gyflym Benny Howell a Ryan Higgins ac yna at y troellwr llaw chwith Tom Smith.

Daeth peth llwyddiant i’r Saeson wrth i Lloyd gael ei fowlio gan Howell wrth gamu i ffwrdd o’r ffon goes, cyn i Carlson yrru pelen gan Tom Smith at Howell yn y cyfar.

Sgubodd Balbirne belen gan Matt Taylor i’r ffin i lawr ochr y goes, ei ail chwech, wrth iddo gyrraedd ei hanner canred, ac fe wnaeth e gosbi Higgins yn ei ail belawd wrth daro 17.

Arhosodd e’n amyneddgar ac yn nerfus am ei ganred wrth i Cooke gael ei redeg allan yn ceisio sengl cyflym, cyn i Douthwaite daro dwy ergyd i’r ffin.

Ond gorffennodd y Gwyddel un rhediad yn brin o’r nod yn y pen draw.

Cwrso’n aflwyddiannus

Wrth gwrso 189 i ennill, dechreuodd Swydd Gaerloyw yn araf yn y cyfnod clatsio, er i Chris Dent daro dau bedwar a chwech yn y bedwaredd pelawd, cyn cael ei ddal yn safle’r trydydd dyn agos yn y bumed pelawd, a’r sgôr yn 49 am un.

Erbyn hanner ffordd, er i Dent gael ei ollwng gan Salter cyn cyrraedd ei hanner canred oddi ar 32 o belenni, ac Ian Cockbain gael ei ollwng gan Timm van der Gugten ar y ffin, roedden nhw wedi arwain eu tîm i 86 am un, gyda nod o 103 yn rhagor i ennill.

Ond daeth awr fawr Graham Wagg wedyn mewn pelawdau olynol, wrth iddo fe fowlio Cockbain cyn dal Dent ar y ffin wrth iddo yrru Sisodiya tua’r ffin agored.

Roedd Wagg yn ei chanol hi eto pan oedd angen 65 ar yr ymwelwyr oddi ar bum pelawd, pan gafodd Bracey ei ddal yn sgwâr ar yr ochr agored am 37 yn y ddeunawfed pelawd, ar ôl goroesi cyfle am ddaliad ar 29.

Cafodd Higgins ei fowlio gan iorcer o belen gan van der Gugten oddi ar belen ola’r belawd olaf ond un, a chipiodd Wagg drydedd wiced yn y belawd olaf pan gafodd Jack Taylor ei ddal ar y ffin ochr agored wrth yrru’n syth, wrth i Balbirnie orffen noson gofiadwy gyda daliad.