Mae prosiect i ailgyflwyno adar ysglyfaethus i rannau o Gymru wedi lansio ymgyrch ariannu torfol (crowdfunding) er mwyn ei helpu i barhau â’u gwaith yn ystod y pandemig.
Daw hyn wedi i Siân Gwenllïan, Aelod o’r Senedd dros Arfon, fynegi ei phryder am yr effaith gallai ail-gyflwyno eryrod ei gael ar fywyd gwyllt a stoc amaethyddol yn ei hetholaeth.
Mae Ailgyflwyno Eryrod yng Nghymru (ERW), a gefnogir gan Brifysgol Caerdydd, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru a Sefydliad Bywyd Gwyllt Roy Dennis, yn gobeithio ail gyflwyno’r eryr aur i gefn gwlad Cymru.
Nid yw’r eryr aur wedi bodoli yma ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
‘Yr eryr yn perthyn i’r tir’
Eglurodd Sophie-lee Williams, sy’n rheoli’r prosiect, fod y coronafeirws wedi gadael ERW heb gyllid.
Nod yr ymgyrch ariannu torfol yw codi £50,000 er mwyn sicrhau fod ei ymdrechion i ailgyflwyno’r adar ysglyfaethus yn parhau.
“Does ond rhaid edrych ar enwau llefydd, parciau cenedlaethol a sefydliadau yng Nghymru i sylweddoli fod yr eryr yn perthyn i’r tir yma”, meddai wrth golwg360.
“Mae tair blynedd o waith caled eisoes wedi ei wneud – ond mae llawer mwy i’w wneud o hyd cyn y gwelwn yr eryr yn hedfan yng Nghymru unwaith eto.
“Ry’n ni wedi edrych ar gapasiti Cymru gyfan, ac wedi mapio pa ardaloedd sydd fwyaf addas i’w cyflwyno.
“Mae yna lawer o lefydd ar draws Cymru sydd yn addas iawn, ond dydy’n ni heb ddewis lle yn union bydd yr adar yn cael eu rhyddhau.
“Er mai’r adar yw ein prif flaenoriaeth, mae’n hynod bwysig ein bod yn pwyso ac yn mesur barn y cyhoedd a rhanddeiliaid.”
Eglurodd bod ERW yn ystyried bod ardaloedd afon Mawddach, dyffryn Dyfi ac arfordir Ceredigion a Sir Benfro yn addas ar gyfer adar ysglyfaethus, a bod gan Barc Cenedlaethol Eryri ardaloedd bridio addas iawn i’r eryr aur.
Pryder ffermwyr
Ond yn ôl yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, mae sawl rheswm dros wrthwynebu’r cynllun.
“Rwyf wedi bod mewn trafodaethau gydag amaethwyr lleol, a chyda’r gangen leol o’r FUW, ac rwyf yn rhannu eu pryderon y gallai’r cynlluniau hyn fod yn her ychwanegol i’r diwydiant amaeth”, meddai Siân Gwenllïan.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n gwrando ar leisiau ffermwyr sydd yn mynegi pryder mawr ynglŷn â’r cynllun hwn.
“Mae’n debyg mai’r rheswm y diflannodd y rhywogaeth o’r ardal yn y lle cyntaf oedd nad oedd cynhaliaeth ddigonol ar ei gyfer yn Eryri.
“Gallai hynny olygu, o’u hail-gyflwyno, y byddai ŵyn bach ffermwyr lleol yn fwyd hawdd iddynt. Mae hynny’n bryderus iawn.”
Cododd Siân Gwenllïan y mater mewn cyfarfod llawn o’r Senedd ddydd Mercher (Medi 16), gan ofyn i Lesley Griffiths AoS, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i beidio cefnogi’r cynllun.
Mewn ymateb eglurodd Lesley Griffiths fod angen “ystyried pob safbwynt ar y mater.”
‘Prin ddim effaith ar dda byw’
Ychwanegodd Sophie-lee Williams ei bod hi’n hollbwysig ymgynghori â ffermwyr ac y byddai cefnogi’r ymgyrch ariannu torfol yn sicrhau bod y dystiolaeth gywir yn cael ei chasglu cyn ailgyflwyno’r adar.
“Mae cydweithio yn hollbwysig. Rydym eisoes yn rhannu gwybodaeth gyda chynlluniau eraill ledled y byd,” meddai.
“Rydym yn gweithio gydag arbenigwyr yn Norwy, Iwerddon, Lloegr a’r Alban ac rydym yn gweithio gyda phobol sydd eisoes wedi ailgyflwyno’r adar.
“Mae tystiolaeth yn dangos bod y ddwy rywogaeth, eryr aur a gwyn, yn cael prin ddim effaith ar dda byw.
“Yn Norwy, mae dros 30 mlynedd o gofnodion helaeth yn dangos bod dim ysglyfaethu tir yno ac mae’r un peth yr un mor wir am Iwerddon.
“Rydyn ni’n cytuno â’r holl weinidogion, dylid cael dull ystyriol ac rydyn ni wedi bod mewn deialog cyson gyda Llywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn sicrhau bod ein hasesiadau’n cwrdd â’r gofynion.
“Bydd unrhyw rodd, fawr neu fach, yn ein helpu i barhau i gasglu’r dystiolaeth hollbwysig sydd ei hangen arnom i adfer y rhywogaethau ysblennydd hyn i Gymru.”