Mae modryb gofidiau (agony aunt) yn yr Unol Daleithiau wedi’i chanmol am sefyll i fyny tros y Gymraeg mewn colofn ddiweddar.

Yn ei cholofn ‘Ask Amy’ ym mhapur The Chicago Tribune mae Amy Dickinson yn rhoi cyngor i ddynes sy’n teimlo bod y Gymraeg yn rhoi straen ar ei pherthynas.

Mae gŵr y ddynes yn siarad Cymraeg gyda’i deulu ar y ffôn, ac mae hi’n teimlo bod hynny’n “anghwrtais”, ac yn gofyn i’r colofnydd a yw ei hymateb yn rhesymol.

Mae Amy Dickinson yn ochri gyda’r gŵr ac yn annog y ddynes i ddysgu rhywfaint o’r iaith.

“Dydy eich gŵr ddim yn trio bod yn anghwrtais,” meddai. “Dw i’n credu ei fod yn ceisio cyfathrebu â’i gydwladwyr gan ddefnyddio dywediadau sy’n unigryw i boblogaeth fechan iawn.

“Mae’n chwilio am ‘gwtsh’ geiriol. Trwy wneud hynny mae’n herio canrifoedd o ddominyddu diwylliannol ac ieithyddol y Saesneg (gormes pur yw hyn yn aml).”

Wrth ateb, mae Amy Dickinson yn defnyddio llu o dermau a geiriau Cymraeg gan gynnwys “iechyd da” a “dim cymaint”, ac mae’n datgelu ei bod wedi rhoi cynnig ar ddysgu rhywfaint o’r iaith.

“Anghyffyrddus” â’r “parablu”

Mae’r ddynes sy’n cysylltu â Chicago Tribune yn defnyddio’r ffug enw ‘Not from Wales’, gan egluro bod hithau a’i gŵr (sy’n Gymro) wedi bod yn briod am 12 blynedd.

“Pan rydym ni yn yr Unol Daleithiau mae fy ngŵr yn aml yn siarad â’i deulu a’i ffrindiau ar y ffôn – bob tro yn Gymraeg,” meddai.

“Dw i’n gweld hyn yn anghwrtais, a phan wnes i grybwyll y peth dywedodd nad yw’n siarad amdana’ i ac felly dylwn i beidio â phoeni.

“Dw i’n aml yn clywed fy enw wrth iddo sgwrsio, ac er fy mod i’n siŵr nad oes unrhyw falais, dw i’n dal yn anghyffyrddus pan mae’n parablu yn ei iaith frodorol.”

Cydymdeimlo â’r iaith

Yn ei hateb, mae Amy Dickinson yn dangos bod ganddi ddealltwriaeth o statws a chyflwr yr iaith.

“Y Gymraeg yw un o’r ieithoedd hynaf sy’n cael ei siarad yn Ewrop, a thu allan i Gymru, peth prin yw clywed yr iaith,” meddai.

“Roedd yr iaith mewn peryg o farw yn gyfan gwbl cyn i ymdrechion cenedlaethol yng Nghymru danio rhyw fath o adfywiad,” meddai wedyn.

Ymateb positif

Mae’r erthygl wedi ennyn ymateb positif ar gyfryngau cymdeithasol, ac mi allwch ddarllen rhywfaint o hynny ymhlith sylwadau’r blwch islaw.