Mae athro Cymraeg sy’n gweithio mewn ysgol sydd reit ar y ffin gyda Lloegr, wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg bod mwy a mwy yn dewis astudio’r iaith yno.

Ac mae Stephen Rule hefyd yn ymfalchïo yn y ffaith bod disgyblion sy’n teithio o Loegr i Gymru yn mwynhau ei wersi Cymraeg.

Mae’r Cymro tanbaid 31 oed wedi treulio degawd yn Athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Maelor yn Llannerch Banna (Penley) yn Wrecsam.

Er mai Saesneg yw cyfrwng yr addysg, “mae’r agwedd tuag at y Gymraeg – a dw i ddim yn chwythu fy nhrwmped fy hun fan hyn! – mae’r agwedd wedi newid yn llwyr,” meddai yn falch.

“Mae pobol yn edrych ar y Gymraeg efo lot mwy o barch ac yn meddwl: ‘Efallai na fydda i yn rhugl, ond rydw i yn parchu’r ffaith fod ganddo ni iaith arall’.

“Ac mae o wedi bod yn ffantastig, fel athro, i weld y newid yna.”

“Plant o Loegr”

Mae’r mwyafrif llethol o ddisgyblion Ysgol Maelor yn dod o aelwydydd heb Gymraeg – a nifer yn dod o du hwnt i Glawdd Offa.

“Rydan ni reit ar y ffin,” meddai Stephen Rule yn egluro lleoliad yr ysgol.

“Rydw i wir yn gallu edrych allan o ffenestri a dw i’n gweld Lloegr. Mae’r ffin reit yna, rydan ni jest abowt yng Nghymru.

“Ac rydan ni yn cael plant o Loegr hefyd. Fyswn i’n dweud bod tua pumed o’r plant yn dod o Loegr.

“Ac maen nhw yn neidio mewn ac yn astudio Cymraeg.

“Maen nhw yn gorfod – mae pawb yn gorfod dysgu Cymraeg yn yr ysgol.

“Ar y dechrau roedden ni’n cael: ‘I’m not Welsh, I’m not doing this!’

“Ond dw i wedi cael sawl un sy’n gwneud Lefel A a TGAU efo ni, ac maen nhw bob tro yn dweud: ‘You remember I’m from England Sir, don’t yer?!

“Rydan ni’n cael laff… ond maen nhw yn gweld [siarad Cymraeg] fel sgil go-iawn, ac mae o’n lyfli.”

Mwy yn astudio’r iaith

Mae 14 o ddisgyblion yr ysgol yn astudio Lefel A Cymraeg eleni, “sy’n anhygoel” meddai Stephen Rule.

“Pan wnes i ddechrau, doedd yna ddim lefel A [Cymraeg] yn yr ysgol yma, felly mae o wedi tyfu yn gyflym iawn.”

Mwy gan Stephen Rule am ei lyfr newydd, Welsh and I, a’i hobi yn canu hits Queen a’r Beatles gyda’i fand, yn rhifyn yr wythnos yma o gylchgrawn Golwg – ac ar golwg+