Mae S4C am greu hanes drwy ddangos y gêm ddarbi rhwng Caerdydd ac Abertawe – dyma fydd y tro cyntaf i un o gemau Uwch Gynghrair Merched Cymru fod ar y teledu.
“Ry’n ni’n hynod falch fod ein tymor newydd yn dechrau’n fyw ar S4C am y tro cyntaf erioed, achlysur sy’n garreg filltir i Uwch Gynghrair Merched Cymru”, meddai Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Ry’n ni’n gweithio’n agos gydag ein partneriaid darlledu i gynyddu ymwybyddiaeth ac i wneud gêm y merched yn fwy gweledol, gan arwain at gynyddu cyfranogiad a buddsoddiad pellach yn y gamp sy’n tyfu cyflymaf ledled Ewrop.”
Cynyddu proffil pêl-droed merched
Yn ymuno â Dylan Ebenezer a Nicky John yn nhîm cyflwyno Sgorio bydd cyn ymosodwr Cymru, Gwennan Harries.
“Mae’r ffaith bod y gêm yn fyw yn gyffrous dros ben ac yn hwb enfawr i’r gynghrair”, meddai.
“Mae proffil pêl-droed merched wedi cynyddu tipyn dros y blynyddoedd diwethaf.
“Does dim ond rhaid edrych ar y torfeydd sy’n gwylio’r tîm cenedlaethol i weld bod diddordeb yno. Gobeithio bydd y gynghrair yn gallu manteisio ar y sylw yma yn yr un modd.”
Ychwanegodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C ei bod hi’n edrych ymlaen at “gêm ddarbi wych rhwng dau o dimau gorau’r wlad.”
Abertawe oedd yn fuddugol yn y ddarbi o ddwy gôl i ddim yn eu gêm gartref ym mis Hydref, cyn gêm ddi-sgôr yng Nghaerdydd ym mis Mawrth eleni.
Yn sgil y coronaferiws daeth y tymor i ben yn gynnar gyda sawl gêm ar ôl i’w chwarae.
Ond gyda chyfartaledd o 2.82 pwynt bob gêm, fe goronwyd yr Elyrch yn bencampwyr, gyda Met Caerdydd yn ail a Chaerdydd yn drydydd.
Bydd y gêm rhwng Caerdydd ac Abertawe yn cael ei chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig yn Stadiwm Leckwith ar ddydd Sul Medi 27.