Bydd Gareth Bale yn hedfan i Lundain heddiw i gwblhau ei drosglwyddiad i Tottenham, er nad oedd Jose Mourinho yn fodlon cadarnhau’r hynny neithiwr (dydd Iau 17 Medi).

Deellir y bydd y Cymro yn gadael Sbaen i roi ei enw ar fenthyciad un tymor o hyd o Real Madrid.

Bu Spurs mewn trafodaethau dros y ddau ddiwrnod diwethaf i lofnodi Bale, sydd bellach yn 31 mlwydd oed, a hynny saith mlynedd ar ôl iddo adael am ffi record byd.

Ymddengys bod yr holl rwystrau ariannol bellach wedi’u goresgyn, gyda chlwb prifddinas Sbaen yn talu cyfran fawr o gyflog sylweddol Bale.

Bydd gan Bale gwmni ar yr awyren: ei gyd-chwaraewr yn Real, Sergio Reguilon, a fydd yn ymuno ar drosglwyddiad parhaol, gyda Spurs yn gobeithio cyhoeddi’r ddau gytundeb cyn y penwythnos.

Mourinho’n gwrthod cadarnhau

Doedd Mourinho ddim yn dweud llawer am y trosglwyddiadau neithiwr, fodd bynnag, wrth i Spurs osgoi embaras yng Nghymngrair Europa gan ennill gêm agos yn erbyn Lokomotiv Plovdiv o ddwy gol i un:

“Ni allaf wneud sylw, dydw i ddim yn gwneud sylwadau ar rywbeth nad wyf yn ei wybod” meddai’r hyfforddwr o Bortiwgal.

“I mi, ar hyn o bryd, nes i mi gael gwybod bod Gareth Bale yn chwaraewr Tottenham, rwy’n dal i feddwl a theimlo a pharchu’r ffaith ei fod yn chwaraewr Real Madrid, felly dydw i ddim yn mynd i roi sylwadau ar chwaraewr Real Madrid.”

Bydd dychweliad Bale yn cyffroi cefnogwyr Spurs ar ôl cyfnod cyntaf hynod lwyddiannus yn White Hart Lane.

Aeth i brifddinas Sbaen o Tottenham yn 2013, gan ennill pedair Cynghrair Pencampwyr yn ystod cyfnod o fedalau di-rif yn y Bernabeu.

Ond mae Bale wedi cael ei hun ar y cyrion o dan Zinedine Zidane ac wedi treulio’r ddwy flynedd ddiwethaf allan o’r tîm yn aml.

Mae ei ddychweliad i Spurs yn amserol i Mourinho hefyd, ar ôl dechrau truenus i’r ymgyrch yn erbyn Everton ddydd Sul.