Torcalon oedd hi i Gei Conna neithiwr, wrth iddyn nhw golli i gic o’r smotyn yn amser anafiadau yn erbyn Dinamo Tbilisi ar y Cae Ras yn Wrecsam.

Aeth gêm Cei Connah yn ei blaen er bod pedwar chwaraewr yn y clwb wedi profi’n bositif am Covid-19.

Mae’r chwaraewyr hynny, ac un arall, yn hunanynysu. Ond soniodd Morrison bod eraill ddim yn tiemlo’n dda.

“Mae tri bachgen wedi cyrraedd heno… ac maen nhw’n sâl,” meddai Morrison.

“A dw i fel ‘bois dwi ddim eisiau clywed hyn!’ Alla i ddim clywed eich bod yn sâl heno, chi’n gwybod hynny, plîs. Gadewch i ni fynd drwy hyn’.

“Ces i wybod hynna cyn y gêm ac ry’n ni wedi gorfod trïo anwybyddu fe… a fyddech chi fyth wedi sylwi bod pobl yna heno oedd ddim yn teimlo’n wych.”

Mae Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr dros Addysg, Andrew RT Davies, wedi dweud ar BBC Radio Wales y bydd angen edrych ar y sylwadau’r rheolwr.

“Os yw sylwadau’r rheolwr yn gywir… mae’n syndod llwyr bod gêm wedi mynd yn ei blaen gyda symptomau’n cael eu harddangos” meddai’r Aelod o’r Senedd.

Y gêm

O ran y gêm, daeth cic o’r smotyn Giorgi Gabedava â gobeithion Cei Connah i ben ar y Cae Ras.

Callum Roberts gafodd ei gosbi am dacl wrth i Dinamo Tbilisi wthio am gôl i gipio’r gêm.

Camodd Gabadeva i fyny a rhoi’r bêl yng nghornel chwith y rhwyd.

Ar ôl y gêm, roedd Andy Morrison yn falch er gwaethaf y canlyniad:

“Dwi’n dod i ddeall yn raddol beth rydyn ni wedi neud, a pha mor dda oedden ni” meddai Morrison.

“Roedd y golled yn brifo i ddechrau, ond roedd y perfformiad yn anhygoel”.

Y Bala

Colli oedd hanes y Bala hefyd… 2-0 yn erbyn y cewri o wlad Belg, Standard Liège.

Sgoriodd Felipe Avenatti y gôl agoriadol gyda chic o’r smotyn yn y 19eg funud.

Codwyd ofn ar y cewri o Wlad Belg gyda chic o’r smotyn i’r Bala, ond arbedodd gôl-geidwad Standard, Arnaud Bodart, ymdrech Chris Venables.

Dyblodd Selim Amallah fantais y Belgiaid cyn yr egwyl ac felly arhosodd y sgôr hyd ddiwedd y gêm.

Felly mae antur Cynghrair Europa’r Bala ar ben, ond mae’r clwb yn falch iawn o’u hymdrechion ac ymdrechion timau eraill Cymru yn Ewrop.