Mae cadeirydd Clwb Pêl-droed y Bala yn dweud mai’r ornest yn erbyn Standard Liège fydd “y gêm fwya’ yn hanes y clwb”. Bydd y tîm o Uwchgynghrair Cymru’n herio un o fawrion Gwlad Belg yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa heno (Medi 17).