Mae’r mab fenga yn mynd mas gyda’i ffrindiau heno i Gaerfyrddin ar y raz.

Dyma’r tro cynta’ iddo fe fynd – cyn belled ag yr ydym ni’n gwybod – ac yn gyfreithlon, o leia’.

Fe gafodd ei ben-blwydd yn ddeunaw ddiwedd Awst druan ag e’, yr ola’ yn ei flwyddyn.

Dyw e’n gwneud fawr ddim gwahaniaeth yn unrhyw flwyddyn arall wrth gwrs.

Ond pan rydych chi’n aros i fod yn ddeunaw, a’ch ffrindiau i gyd wedi hen ddathlu, mae’r flwyddyn yn teimlo fel degawd.