Rwyf wrth fy modd yn coginio.

Rhowch i mi wy, dŵr, oriawr a sosban – ac o fewn tair munud a hanner gallaf baratoi un oeuf à la coque.

Ond ychwanegwch dafell o fara, tostiwr, gwerth pedwar munud o drydan – a menyn – ac fe baratoaf un petit-déjeuner.

A phe byddwn yn ychwanegu halen a phupur, byddai modd i mi gyrraedd safonau uchaf y gyfundrefn Michelin.

Rwy’n ddyn talentog iawn yn y gegin.