“Llongyfarchiadau i fi. Llongyfarchiadau i fi”.

Ydw, wi’n dathlu. Wedi ychydig o oedi, dw i wedi derbyn fy nghanlyniadau Lefel A!  ‘A’ mewn Amynedd, ‘A’ mewn Optimistiaeth, ‘C’ am Wylio’r Newyddion Heb Daflu Rhywbeth At Y Teledu… a’r uchafbwynt:  ‘A Serennog’ am Yfed Gwinoedd Rhad Chi’n Gallu Eu Prynu Yn Lidl’.

Oes, mae siopau eraill ar gael, ond yffach mae gwin perffaith Sauvignon Blanc o Seland Newydd ar eu silffoedd ar hyn o bryd.