O leia’, dyna beth o’n i’n arfer ddweud. Esgus perffaith i osgoi’r Maes am flwyddyn arall. Y mwd, y small talk, y printiau carthen diddiwedd: mae osgoi’r steddfod, a’r “pethe” yn gyffredinol, wedi dod yn rhan annatod o fy hunaniaeth i fel Cymraes.

Ond dros y cyfnod clo, rhaid cyfaddef fy mod i wedi meddalu rhywfaint ar fy safbwynt radical, gwrth-sefydliad, gwrth-stumie a gwrth-welington.