Mae darpariaeth Gymraeg cyrff cyhoeddus yn gwella, ond yn parhau’n anghyson.

Dyna yw casgliad Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, yn sgil ymchwiliad i’r sefyllfa yng Nghymru.

Mae 122 o sefydliadau bellach dan Safonau’r Gymraeg ac felly’n gorfod darparu gwasanaethau Cymraeg o’r un safon a’u gwasanaethau Saesneg.

Ac yn 2019-20 roedd pethau’n well yng Nghymru yn hyn o beth, yn ôl y Comisiynydd, o gymharu â blynyddoedd blaenorol.