Cael potel o win yn anrheg a roddodd i’r awdur Sonia Edwards yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei nofel ddiweddaraf, Gavi.

“Ro’n i’n cael ryw lasiad gyda’r nos ac yn darllen y label, ac roedd y disgrifiad o’r gwin yn dweud ‘yn fyrlymus’ ac ‘yn olau’, ac roeddwn i’n meddwl – iesgob, mi allech chi ddisgrifio person fel yma,” meddai.