Mae’r chwythwrs kurn horni yn ôl gyda dwy bangar ffynki ar gyfer clustiau’r genedl…

Mae’r BPL – Band Pres Llareggub – newydd ryddhau dwy gân newydd gyda hen ffrind.

Yn 2015, un o’r pethau cynta’ glywson ni gan y cyrn-garwyr oedd cân wych o’r enw ‘Foxtrot Oscar’ oedd yn cynnwys llais Amlyn Parry yn rapio: ‘birds, ti’n gw’bod yn iawn, dwi’n dawnsio’r foxtrot trwy’r prynhawn’.

Ac o feddwl bod y gân wedi mynd lawr fel bom ar Radio Cymru, mae hi’n rhyfedd meddwl ei bod hi wedi cymryd pum mlynedd i’r BPL ac Amlyn Parry greu mwy o ganeuon.

Ond dyna ni, ara’ deg mae dal iâr…  fe lwyddon nhw i recordio dwy newydd cyn y cyfnod clo, sydd newydd eu rhyddhau… ac maen nhw yn bangars!

Mae ‘Ma dy nain yn licio hip-hop’ yn swnio’n fudur ac yn fodern gyda bass TEW a’r rapio yn llifo’n slic oddi ar dafod Amlyn Parry:

Mae dy nain yn hardcore

Dw i’n cofio unwaith ar y dancefloor

Yn breicio

A fi yn y slow lane, a dy nain yn ofyrteicio

O ni’n teimlo fatha creep, jesd yn sefyll a stêrio

Sbarcs yn dod o’i thraed, oedd y ddynas ddim yn cêrio

Roedd hi’n swingio rownd ffon gerddad fatha mwnci yn y jungle

Nain with attitude, y ddynas ready to rumble!

Dwi ddim yn gwybod be’ mae hi’n smocio

Dwi ddim yn gwybod be’ mae hi ar

Ond watsia di dy big

Achos mae hi’n troi ceiliog mewn i iâr!

I gyd-fynd â’r geiriau gwirion, mae cerddoriaeth fydd yn gyfarwydd i’r rhei hynny sy’n hyddysg yn eu hip-hop.

Ac mae’r bass yn swnio yn wahanol i unrhyw beth mae’r BPL wedi ei wneud o’r blaen.

Dyma fand sy’n enwog am ddefnyddio cyrn pres i greu pop ffynci – ond ar gyfer y gân newydd maen nhw wedi defnyddio mwy na thiwba i greu sŵn bass budur.

“Mae yna diwba yna,” meddai Owain Roberts, sylfaenydd a brêns BPL, “ond tiwba wedi cael ei brosesu a’i syntheseiddio.

“Achos mae’r gân yn dyfynnu bass-line un o ganeuon Dead Prez, ‘It’s bigger than hip-hop’.”

Fe gafodd Owain Roberts ac Amlyn Parry “lot o hwyl yn arbrofi a chwarae o gwmpas” wrth recordio ‘Ma dy nain yn licio hip-hop’ yn stiwdio Frank Naughton yng Nghaerdydd.

“Rydan ni wedi trio gwasgu cyn gymaint o stwff hip-hopaidd ag yr oedden ni’n gallu ar y gân,” eglura Owain Roberts.

“Mae yna lot o samples… fel sample o Tara Bethan yn canu Bee Gees ar ei ganol o.

“Mae yna seirens a scratches turntable a nifer o bobl yn gweiddi ‘hip-hop’ trwyddo fo.”

Diolch am y miwsig

Mae ‘Miwsig i’r enaid’, ail gân newydd BPL, yn dathlu bendithion cerddoriaeth yn ein bywydau wrth i Amlyn Parry rapio:

Mae’r stwff yma’n llifo yn ddyfn

Yn ddyfn yn y gwaed

Ti’n gallu teimlo’r effaith

O dy goryn i dy draed.

Pan ti lawr ar dy lwc

A nunlle i droi

Y gerddoriaeth wrth dy ochr

Y gweledigaeth mae o’n rhoi

Fel therapi – i  ddeall y sefyllfa

Gwellhad ysbrydol – heb dabledi o’r fferyllfa.

Mae’r gerddoriaeth ar y gân hon yn swnio fel band pres milwrol yn martsio i ryfel… nid i’r math o ryfel lle mae pobol yn marw, ond rhyfel lle mae pobol yn brwydro i ddangos pa mor llesol ydy miwsig.

“Roedda ni’n meddwl bod hon yn gân dda i ddod allan yn y cyfnod yma,” meddai Owain Roberts.

“Mae yna ryw neges i’r gân yna. Does gen ti ddim neges o gwbl yn ‘Ma dy nain yn licio hip-hop’ – jest hwyl ydy o.

“Ond mae ‘Miwsig i’r enaid’ yn siarad am y ffaith bod cerddoriaeth yn iaith ryngwladol, yn iaith i bawb.”

Y llynedd fe aeth BPL draw i New Orleans, y ddinas ar lannau Afon Mississippi yn America sy’n fyd enwog am ei cherddoriaeth, i chwarae mewn gŵyl.

Fe gafodd yr antur ei chofnodi ar raglen Cyrn ar y Mississippi ar S4C, a dylanwadu ar feib y gân ‘Miwsig i’r enaid’.

“Fe gafodd [y ffaith fod cerddoriaeth yn iaith ryngwladol] ei danlinellu i ni fel band pan aethon ni draw i New Orleans y llynedd,” eglura Owain Roberts.

“Roedd gweld sut mae cerddoriaeth yn rhan allweddol o fywyd a’r gymuned… wnaeth o hitio ni i gyd fel band yn galed.”

Aros am yr Amlyn

Pioden gerddorol yw Amlyn Parry.

Yn ogystal â rapio ar ganeuon BPL, mae ganddo ei fand roc ei hun o’r enw Gwyllt, sy’n perfformio popeth o reggae i stompars roc trwm megis ‘Effaith Trwsus Lledar’, a chaneuon indi-myfyrgar fel ‘Pwyso a mesur’.

Byth ers recordio ‘Foxtrot Oscar’ yn 2015, mae Owain Roberts wedi bod yn aros am gyfle arall i gydweithio gydag Amlyn Parry.

“Llynedd oedd un o’r troeon cyntaf i ni berfformio ar lwyfan efo Amlyn – tydi o ddim yn beth rheolaidd o gwbl,” eglura brêns BPL.

“Wnaethon ni [berfformio yn] Llwyfan y Maes y llynedd yn Llanrwst, ac roedd hi’n tywallt y glaw.

“A hwnna oedd y gig wnes i fwynhau fwyaf – ERIOED – gyda’r band.”

Monster” ar ei ffordd

Aeth pum mlynedd heibio ers i BPL ryddhau eu fersiwn nhw o Mwng, albwm seminal y Super Furries.

Mae ganddyn nhw ddwy albwm o ganeuon gwreiddiol gwych dan eu belt hefyd – Kurn (2016) a Llareggub (2017).

Ac ar gyfer yr un nesa’, maen nhw wedi penderfynu troi at recordio Pwy sy’n galw?, unig albwm Gymraeg y band Big Leaves, a gafodd ei chyhoeddi yn wreiddiol yn 2000.

“Mae’r ddwy gân rydan ni newydd ryddhau jesd yn dipyn bach o hwyl,” eglura Owain Roberts, “ond dw i’n teimlo bod yr un Big Leaves yn monster!

“Dw i’n meddwl mai hwnna ydy’r albwm mwya’ uchelgeisiol dw i erioed wedi’i wneud efo’r band.

“Dw i wrth fy modd efo sut mae o wedi siapio, a ryda ni bron iawn yna, ac mae yna gymaint o leisiau arbennig yn canu a lot o stwff rydan ni wedi arbrofi am y tro cyntaf.”

Yn anhygoel, Owain Roberts ei hun wnaeth chwarae “90%” o’r offerynnau sydd i’w clywed ar fersiwn BPL o Mwng.

Ond mae’r broses o recordio’r un Big Leaves wedi bod yn fwy o ‘gorau chwarae, cyd chwarae’.

“Rydw i wedi cael pawb o’r band arni, sydd wedi bod yn broses hirwyntog,” eglura Owain Roberts sy’n byw yn Llundain, ac yn gorfod trefnu i weddill yr aelodau wneud eu stwff nôl yng Nghymru… ac ar ben hynny, mae’r coronafeirws wedi ychwanegu haenen heriol ychwanegol.

“Yn enwedig o ran trïo recordio pobol yn unigol,” meddai Owain Roberts, “oherwydd locdown, ar gyfer rhai traciau.

“Ond mae o’n dod at ei gilydd… rydw i’n hapus iawn efo fo, ac yn edrych ymlaen yn arw i ddechrau rhyddhau senglau flwyddyn nesaf.”

A pwy sy’n canu ar Pwy sy’n galw?

“Rydan ni efo Ifan Pritchard o Gwilym. Yws Gwynedd. Mared Williams… o damia, mae yna rywun yn y drws.

“Ga i ffonio chdi’n ôl?”