Portread o Catrin Roberts

Mae hogan sy’n hanu o Flaenau Ffestiniog yn gobeithio gwneud bywoliaeth o blanhigion gwyllt ei milltir sgwâr.

Wedi blynyddoedd yn byw yn yr Almaen ac yn reidio ar gefn estrys yn Affrica, mae Catrin Roberts yn ôl ym mro ei mebyd.

Yn ddiweddar mae hi wedi ymddangos ar raglen Bore Cothi BBC Radio Cymru, ac ar Natur a Ni S4C yn trafod rhinweddau planhigion.