Mae’r gŵr o’r Rhondda yn gweithio yn Adran Newyddion ITV Cymru ers 12 mlynedd, a newydd olynu Adrian Masters yn gyflwynydd y rhaglen wleidyddol ‘The Sharp End’…

Sut holwr ydach chi am fod – un annwyl fel Adrian Masters, neu un garw fel Piers Morgan?!

Mae yna adegau pan mae hiwmor yn cael y maen i’r wal, ond rydw i’n eitha’ penderfynol wrth fynnu ateb. Roeddwn i eisiau bod yn gyfreithiwr, felly mae croesholi pobol yn ail natur i mi.