Mae’r post yn cyrraedd ganol bore, sŵn y parsel ar y mat yn cyd-fynd efo clic terfynol y tegell. Mae Anne yn tollti’r dŵr berwedig i’r tebot ac yn cario’r cwpan at y bwrdd bach yn yr ardd, cyn nôl tafell olaf y dorth leim a rỳm a wnaeth hi ddoe. Rhaid i bopeth fod yn berffaith cyn agor y parsel. Mae hi wedi edrych ymlaen at hyn.