Fe ddwedes i mewn colofn tua dechrau’r pandemig mai un o’r newidiadau parhaol sy’n debygol o sticio yw gweithio adre. A dwi’n dal i feddwl bo’ ni ar drothwy newid reit fawr. (Fel enghraifft hollol anecdotaidd ac anwyddonol, es i am beint p’nosweth… ac o’r pedwar ohonon ni, roedd dau’n dweud eu bod yn bwriadu gadael Caerdydd i fyw yng nghyffiniau Aberystwyth yn reit handi.)