Portread o Stephen Rule

Mae gan Stephen Rule sawl pluen yn ei het.

Yn fwyaf annisgwyl, mae’r athro Cymraeg o Sir y Fflint yn canu mewn band roc.

Bydd yn perfformio ‘I Want It All’ Queen a ‘Back in the USSR’ y Beatles gyda’i fand, Links to Russia.

Mae o hefyd yn cynnal cyfrif DoctorCymraeg ar wefan twitter, yn rhoi tips a chyngor defnyddiol ar eiriau a gramadeg.