Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bydd hawl gan bobol deithio drwy ardaloedd mae cyfyngiadau lleol wedi eu cyflwyno.

Daw hyn ar ôl i’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, gyhoeddi heddiw y bydd cloeon lleol yn cael eu cyflwyno ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd i fynd i’r afael a’r cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws.

Mae cyfyngiadau lleol hefyd yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf.

Ar ôl i’r rheolau newydd ddod i rym am 18:00 nos yfory (Medi 22) ni fydd pobol sy’n byw yn yr ardaloedd hyn yn cael gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu er mwyn derbyn addysg.

Roedd ansicrwydd sut byddai hyn yn effeithio ar Gaerdydd a Bro Morgannwg, siroedd i’r de sydd heb eu rhoi dan gyfyngiadau lleol.

‘Cyrraedd pen eich taith’

“Os oes rhaid teithio ar hyd ffordd sy’n mynd trwy’r ardal a does gennych ddim opsiwn rhesymol arall i deithio i gyrraedd pen eich taith, yna caniateir hyn”, meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae hyn yn golygu bod hawl gan bobol deithio ar hyd yr A470 o Gaerdydd i’r gogledd er enghraifft, neu ar hyd yr M4 i gyfeiriad Abertawe i weld teulu a ffrindiau.

Ond bydd dim hawl gan bobol i stopio yn yr ardaloedd mae cyfyngiadau lleol wedi eu cyflwyno oni bai eich bod chi’n agos at redeg allan o danwydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobol i gynllunio ymlaen cyn dechrau ar eu taith.