Mae cyn-brif weinidog Ceidwadol arall wedi datgan na all gefnogi Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.

Yn dilyn John Major, dywedodd Theresa May wrth Dŷ’r Cyffredin heddiw (21 Medi):

“Rwyf o’r farn bod y Llywodraeth, drwy gyflwyno cymalau 41 i 45, yn gweithredu’n ddi-hid ac yn anghyfrifol heb feddwl am yr effaith hirdymor ar statws y Deyrnas Unedig yn y byd.

“Bydd hyn yn arwain at ddifrodi enw da’r Deyrnas Unedig, mae’n peryglu dyfodol y Deyrnas Unedig ac, o ganlyniad, yn ofidus, mae’n rhaid i mi ddweud wrth y gweinidog na allaf gefnogi’r Bil hwn.”

Peryglu’r Deyrnas Unedig

Rhybuddiodd y cyn-brif weinidog fod y Llywodraeth “yn peryglu cyfanrwydd y Deyrnas Unedig”.

Dywedodd: “Rwy’n credu y bydd parodrwydd y Llywodraeth i roi’r gorau i gytundeb rhyngwladol, neu rannau o gytundeb rhyngwladol, y mae wedi’i lofnodi, ei pharodrwydd i fynd yn ôl ar gytundeb y mae wedi’i lofnodi, yn arwain at rywfaint o gwestiynau, fel sydd eisoes wedi’i wneud yn glir [mewn cyfraniadau eraill yn Senedd San Steffan]… rhai’n cwestiynu parodrwydd y Llywodraeth i gynnal y mesurau yng Nghytundeb Gwener y Groglith Belfast yn llawn.

“Bydd hynny yn ei dro yn golygu bod gan rai cymunedau lai o barodrwydd i ymddiried yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a gallai hynny arwain at effaith ar barodrwydd pobl yng Ngogledd Iwerddon i barhau i fod yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

“Felly, ymhell o weithredu i atgyfnerthu cyfanrwydd y Deyrnas Unedig, wrth geisio ceisio ymddangos yn gadarn gerbron yr Undeb Ewropeaidd, rwy’n credu bod y Llywodraeth yn peryglu cyfanrwydd y DU.”