Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymestyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws.

Golygai hyn na fydd unrhyw fusnes yn cael ei droi allan os yw’n methu talu rhent rhwng nawr a diwedd mis Rhagfyr.

Roedd y moratoriwm ar fforffedu prydles am beidio â thalu rhent i fod i ddod i ben ddiwedd fis Medi.

‘Cryn bryder o hyd’

“Rydyn ni’n gwybod bod cryn bryder o hyd yn y sector manwerthu yng Nghymru, ac rydyn ni’n estyn y mesurau hyn i gydnabod yr anawsterau dybryd maen nhw, a llawer o fusnesau eraill ledled Cymru, yn eu hwynebu”, meddai Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.

“Bydd hyn yn atal busnesau rhag cael eu troi allan mewn modd afresymol yn y cyfnod hanfodol hwn cyn y Nadolig, gan ddiogelu swyddi a busnesau.

“Fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn cydnabod yr angen i ddatblygu ffyrdd cynaliadwy o ddarparu sefydlogrwydd a sicrwydd ar gyfer busnesau yn y tymor hwy er mwyn ysgogi adferiad economaidd.

“Fel rhan o’r gwaith hwn byddwn ni’n parhau i ofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi’r cymorth sydd ei angen wrth i ni gynllunio ar gyfer Cymru ffyniannus yn dilyn y pandemig.”

Daw’r cyhoeddiad wrth i Gynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig, y cynllun ‘ffyrlo’, ddod i ben.

‘Sicrhau bod canol ein trefi yn ffynnu’

Eglurodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, mae “sicrhau bod canol ein trefi yn ffynnu” yw’r flaenoriaeth.

“Mae sicrhau y gall busnesau Cymru barhau i fod ar agor heb y perygl o gael eu troi allan yn hanfodol er mwyn sicrhau bod canol ein trefi’n gallu parhau i ffynnu yng Nghymru yn dilyn y pandemig”, meddai.

“Byddwn ni’n parhau i gydweithio â phartneriaid, yn unol â’n hagenda Trawsnewid Trefi, i adeiladu canol trefi ar gyfer y dyfodol lle gall busnesau ffynnu.”

Pwysleisiodd Llywodraeth Cymru y dylid parhau i dalu rhent os yn bosibl.