Mae wyth undeb addysg wedi galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu bod pob aelod o staff mewn ysgolion yn cael eu profi am y coronafeirws.

Hyd yma, mae o leiaf 97 o sefydliadau addysg yng Nghymru wedi cael eu heffeithio gan brofion positif o’r coronafeirws, ac wedi gorfod gofyn i ddisgyblion a staff hunanynysu.

Gallwch ddarllen am rai o’r sefydliadau diweddaraf yma.

Sicrhau tegwch i ddisgyblion

Eglurodd yr undebau bod cadw ysgolion ar agor, ac wedi’u staffio’n iawn, yn flaenoriaeth.

Mae’r undebau o’r farn byddai cynnig profion cyflym i holl staff ysgolion yn sicrhau tegwch i ddisgyblion.

Eglurodd y llythyr y byddai profion cyson yn golygu y gallai staff sy’n profi’n bositif hunanynysu yn syth ac y gallai’r rhai sy’n profi’n negyddol barhau i weithio.

Mae undebau ASCL, GMB, NASUWT, NAHT, NEU, UCAC, UNSAIN ac UNITE wedi llofnodi’r llythyr at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

‘Unig ffordd i gynnal amgylchedd diogel’

“Mae cynllunio’r gweithlu i gadw ein hysgolion yn ddiogel yn ddigon anodd yn barod heb y bygythiad o gynnydd mewn aelodau staff sy’n methu â mynychu gwaith oherwydd nad ydyn nhw’n gallu cael prawf Covid”, meddai Rosie Lewis, ar ran yr wyth undeb addysg.

“Blaenoriaethu profion ar gyfer holl staff ysgolion yw’r unig ffordd i gynnal amgylchedd diogel yn ein hysgolion.”