Honnodd llefarydd Stryd Downing heddiw (21 Medi) na fyddai’r ap Covid-19 hirddisgwyliedig a gaiff ei lansio yng Nghymru a Lloegr ddydd Iau (24 Medi) yn darparu’r gallu awtomatig i olrhain cyswllt, fel a addawyd yn wreiddiol.

Dywedodd llefarydd swyddogol Prif Weinidog y Deyrnas Unedig: “Bydd [yr ap] yno i wirio ac adrodd am symptomau, archebu prawf, darganfod a ydych wedi profi’n bositif ai peidio, ac a oes angen i chi hunanynysu.

Swyddogaethau

“Byddwch yn gallu gwirio lefel risg eich ardal leol, a bydd yn darparu [y gallu i] ddefnyddio cod QR wrth fynd i mewn i wahanol safleoedd gyda’ch ffonau, yn hytrach na gorfod llenwi blwch gwirio neu unrhyw beth arall i roi eich manylion cyswllt.”

“Nid y bwriad” yw gwneud lawrlwytho’r ap yn orfodol ond “caiff ei gefnogi gan ymgyrch cyfryngau cymdeithasol sy’n tynnu sylw at y rôl y gall ei chwarae wrth helpu i wirio ac adrodd am symptomau a helpu i gadw eich hun, eich anwyliaid, a’ch ffrindiau’n ddiogel”.

Pan ofynnwyd i’r llefarydd a fyddai’n gwneud gwaith olrhain cyswllt awtomatig, dywedodd y llefarydd: “Rwyf wedi nodi i chi y swyddogaethau a fydd ganddo pan fydd wedi lansio.”

Fodd bynnag, mae Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth y Deyrnas Unedig bellach wedi egluro’r sefyllfa.