Wedi i Blaid Cymru gyhoeddi adroddiad am ail gartrefi mae Delyth Jewell, llefarydd tai Plaid Cymru wedi dweud wrth golwg360 bod yr argyfwng yn berthnasol i Gymru gyfan.
“Mae ail gartrefi yn ergyd sy’n effeithio ar bawb yng Nghymru, ac nid dim ond rheini sy’n byw yn y gorllewin”, meddai.
“Er nad yw hyn yn effeithio yn uniongyrchol ar fy etholaeth i yn y de-ddwyrain rwy’n teimlon gryf am hyn gan ei fod yn effeithio ar y gymuned Gymreig.”
Bydd Aelodau o’r Senedd yn trafod y mater yn y siambr heno (Medi 23).
‘Dim esgus dros wneud dim byd’
“Dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n gofyn gormod”, meddai Delyth Jewell.
“Rydym yn cynnig cyfres o fesurau ac opsiynau i’r Llywodraeth, rhai y gellir eu gweithredu ar unwaith… mae rhai byddai rhaid ymgynghori arnyn nhw mae’n siŵr, ond does dim esgus dros wneud dim byd.
“Oni bai bod yna weithredu, fydd y sefyllfa ond yn mynd yn waeth.”
Covid-19 wedi amlygu’r heriau
Eglurodd Delyth Jewell fod Covid-19 wedi amlygu’r heriau sydd yn wynebu cymunedau o ganlyniad i ail gartrefi.
“Mae’r pandemig yn gyffredinol wedi dangos pa mor bwysig ydy cartref a chymuned”, meddai.
“Yn ystod y cyfnod clo roedd pobol yn teithio i’w hail gartrefi ac yn rhoi mwy o straen ar wasanaethau cyhoeddus yn yr ardaloedd hynny.
“Hefyd, oherwydd sgil-effeithiau’r pandemig rydym yn gweld mwy a mwy o bobol yn gweithio o gartref, ac mae ’na beryg gallai hyn arwain at fwy o bobol yn byw y tu allan i’r dinasoedd mawr a gwneud y sefyllfa hyd yn oed yn waeth.
“Nawr yw’r amser i fynd i’r afael ar broblem gan ein bod ni wedi gweld diffyg gweithredu ers cymaint o amser.”
Mae ystadegau yn dangos bod cyfradd uwch y dreth preswyl o dan y Dreth Trafodiadau Tir, cyfradd sy’n cael ei thalu ar ail gartrefi ac eiddo prynu-i-osod ymhlith eraill, yn gymwys i 38% o’r tai a werthwyd yng Ngwynedd rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2020.
Mae’r ffigurau gan Awdurdod Cyllid Cymru hefyd yn dangos bod hyn yn uwch yng Ngwynedd nag yn unrhyw le arall yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
‘Diffyg gweithredu gan weinidogion yn siom’
Ond mae Delyth Jewell yn anfodlon ag ymateb gweinidogion Llywodraeth Cymru hyd yma.
“Rydym yn clywed y synau cywir, ond rydym dal heb weld unrhyw weithredu eto.
“O’n i wedi’n siomi ychydig o glywed Eluned Morgan ar raglen Pawb a’i Farn wythnos diwethaf yn dweud bod y sefyllfa yn broblem a ddim yn argyfwng.
“Fi’n poeni nad yw’r gweinidogion yn deall cymaint o argyfwng yw hyn i’n cymunedau ni.
“Oni bai ein bod ni’n gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â hyn mae wir beryg i ddyfodol ein cymunedau.”
Wythnos diwethaf dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol bod Llywodraeth Cymru yn “ymchwilio i nifer o bethau” ac y byddai’n “rhoi camau i anghymell ail dai a dysgu’r gwersi o hynny.”
Mae hefyd am ymchwilio i nifer o’r tai cymdeithasol sy’n cael eu hadeiladu mewn cymunedau ar draws Cymru i sicrhau fod y tai hynny ar gael i bobol leol.