Mae’r Canghellor wedi cael ei annog i fwrw ymlaen â chynlluniau cymorth swyddi newydd ar fyrder

Mae adroddiadau fod y Canghellor, Rishi Sunak, yn gweithio ar gynllun newydd, ar sail un yn yr Almaen, i osgoi diweithdra mawr ar ôl i’r cynllun ffyrlo ddod i ben.

Y sôn yw bod Mr Sunak yn pwyso a mesur cynllun newydd fel rhan o raglen ehangach o gymorth brys wrth i bwysau gynyddu ar y Llywodraeth i helpu busnesau oroesi ail don o’r coronafeirws

O dan y cynlluniau arfaethedig, byddai’r Llywodraeth a chwmnïau’n rhannu’r gost o ychwanegu at gyflogau pobl sydd ond yn gallu gweithio’n rhan-amser oherwydd y pandemig.

Dywedodd Andrew Bailey, llywodraethwr Banc Lloegr ddydd Mawrth, ei bod yn bryd “stopio ac ailfeddwl” am y cynllun ffyrlo, a symud at gynllun wedi’i dargedu.

Dywedodd Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) fod yn rhaid i’r Llywodraeth gyflwyno cynllun newydd i ddiogelu swyddi ar fyrder.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Frances O’Graddy: “Rydym wedi cyhoeddi cynigion manwl ar gyfer cynllun nwydd ar gyfer uwchsgilio a gweithio amser byr.

“Gyda’r dull cywir gallwn atal diweithdra rhag effeithio ar filiynau o bobl.

“Mae fy neges i weinidogion yn glir: gadewch i ni [drafod a chyflwyno] cynllun newydd ar fyrder.”

Mae Mr Sunak wedi addo bod yn “greadigol” a deellir ei fod yn ystyried nifer o fesurau posibl i sybsideiddio cyflogau gweithwyr, ar ôl ymgynghori ag undebau a grwpiau busnes.

Credir iddo ohirio cyhoeddiad heddiw (dydd Mercher 23 Medi) i ymestyn cynlluniau benthyciadau brys, a hynny er mwyn cyflwyno pecyn cymorth mwy.

Kurzarbeit

Un opsiwn sy’n cael ei ystyried, yn ôl pob sôn, yw cynllun tebyg i Kurzarbeit – polisi amser gwaith byrrach yr Almaen – sy’n caniatáu i gwmnïau dorri oriau gwaith yn sylweddol mewn cyfnod economaidd caled, gyda’r wladwriaeth yn ychwanegu at incwm y gweithwyr hynny.

Mae’r TUC wedi cynnig cynllun tebyg a fyddai’n gweld gweithwyr yn cael 80% o’u cyflog am yr oriau nad ydynt mewn gwaith.

Byddai cwmnïau’n cael cymhorthdal o 70% gan y Llywodraeth, ar yr amod eu bod yn dod â phob gweithiwr ar y cynllun yn ôl am gyfran ofynnol o’u horiau gwaith arferol.

Byddai cynnig arall a gyflwynwyd gan grŵp busnes y CBI yn gweld cymorthdaliadau i gwmnïau a all gynnig 50% o’u horiau arferol i staff, gyda’r gost am oriau nad ydynt yn gweithio yn cael eu rhannu’n gyfartal gan y cwmni, y Trysorlys, a’r cyflogai.

Gwrthododd y Trysorlys a Rhif 10 Stryd Downing wneud sylw heddiw (23 Medi). Mae disgwyl i Mr Sunak wneud cyhoeddiad yfory (24 Medi).

Mae’r cynllun ffyrlo wedi costio £39.3 biliwn i’r Llywodraeth hyd yma, yn ôl y ffigurau diweddaraf, gyda £3.9 biliwn o’r swm hwnnw ar gyfer y cyfnod rhwng 16 Awst a Medi 20 yn unig.

Mae mwy na £13 biliwn wedi’i drosglwyddo i gwmnïau a gweithwyr drwy bum cynllun cymorth gwahanol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y mis diwethaf.

Dywedodd John Phillips, ysgrifennydd cyffredinol dros dro undeb y GMB: “Mae gwledydd eraill wedi dechrau’n dda o ran cynnig cymorth, amddiffyniad a sicrwydd i ddiwydiannau wrth i’n heconomi sefyll ar y dibyn.

“Mae’r Trysorlys wedi addo gweithredu creadigol yn y cyfnod estynedig hwn na welwyd mo’i debyg o’r blaen – ond mae amser yn brin.

“Rhaid i Weinidogion dargedu cymorth ar gyfer diwydiannau, cymorth incwm, a chymryd camau i achub swyddi.”