Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw yn y Senedd am ostyngiad i ffioedd myfyrwyr a galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda cholegau a phrifysgolion i sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn gwerth am arian.

Yng nghyfarfod llawn y Senedd heddiw disgrifiodd Suzy Davies AS, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Covid-19 fel cyfnod “ofnadwy” i fyfyrwyr.

“Mae wedi bod yn gyfnod gwirioneddol ofnadwy i fyfyrwyr mewn addysg bellach ac uwch, a’r rhai sydd am fynd i addysg uwch”, meddai.

“Mae angen bargen decach ar fyfyrwyr, neu roi ffordd arall, i wneud yn siŵr ei bod nhw’n cael gwerth am arian am y buddsoddiad yn eu haddysg.

“O ganlyniad, rydw i’n galw am ostyngiad rhannol mewn ffioedd dysgu i gydnabod effaith Covid-19, ynghyd â mwy o gefnogaeth i golegau a phrifysgolion allu cynnig addysg o ansawdd uchel.”

Arolwg Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr

Cyfeiriodd Suzy Davies at ffigyrau arolwg gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr am effaith Covid-19 ar addysg bellach:

  • 15% o fyfyrwyr ddim â’r offer cywir i weithio ar lein
  • 27% o fyfyrwyr oedd a’r offer cywir methu cael mynediad i ddeunydd ar-lein
  • 38% o fyfyrwyr yn dweud nad oedd ansawdd addysg ar-lein o safon dda
  • 66% o fyfyrwyr yn dweud fod Covid-19 wedi cael effaith negyddol ar eu cyrsiau
Suzy Davies

Ychwanegodd yr Aeod o’r Senedd fod myfyrwyr “yn disgwyl addysg o’r safon maen nhw wedi talu amdani, ac y maen nhw yn mynd i ddyled amdani.”

“Mae’r cyfyngiadau ar golegau a phrifysgolion wedi cael effaith ddwys ar allu myfyrwyr i gael mynediad at adnoddau, gan olygu bod rhai wedi colli allan ar addysg ac mewn perygl o fynd ar ei hôl hi.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru beidio â gadael i hyn ddigwydd.”

Daw sylwadau’r Ceidwadwyr Cymreig yn dilyn adroddiad newydd gan sefydliad Prifysgolion Cymru oedd yn dweud bod prifysgolion yng Nghymru wedi chwarae rhan allweddol wrth gynorthwyo’r wlad yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.

Ymateb y Gweinidog Addysg

Wrth ymateb i sylwadau Suzy Davies, diolchodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams i fyfyrwyr a Phrifysgolion am eu parodrwydd i addasu.

“Mae ein prifysgolion wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu arloesol a chefnogol trwy gymysgedd o ddarpariaeth ar-lein ac wyneb yn wyneb, ac rwy’n hyderus iawn y gallant gyflawni’r ymrwymiad hwn.

“Bydd holl Brifysgolion Cymru yn cyflwyno dysgu cyfunol yn ystod y cyfnod hwn.

“Hoffwn hefyd atgoffa Aelodau Ceidwadol bod gwleidyddion ceidwadol yn San Steffan wedi gwrthod galwadau am ostyngiad mewn ffioedd o ganlyniad i’r pandemig.

“Y gwir amdani yw y byddai gostyngiad mewn ffioedd yn niweidio’r addysg a’r gwasanaethau myfyrwyr gall ein prifysgolion eu darparu – oni bai bod Llywodraeth y DU yn talu unrhyw ffioedd hynny yw – a dydw i ddim yn gweld y gefnogaeth ariannol yna yn dod yn fuan.”

Ychwanegodd Kirsty Williams ei bod hi’n cynghori myfyrwyr addysg uwch sydd yn teimlo nad yw eu haddysg wedi bod o ansawdd digonol i boedio oedi i gysylltu a’r brifysgol neu swyddfeydd y dyfarnwr annibynnol i gwyno.