Mae adroddiad newydd gan sefydliad Prifysgolion Cymru yn datgelu bod prifysgolion yng Nghymru wedi chwarae rhan allweddol wrth gynorthwyo’r wlad yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.

Daw hyn wedi i arolwg arall awgrymu bod pryder cynyddol y bydd nifer y myfyrwyr a glasfyfyrwyr sy’n dychwelyd i’r brifysgol yn arwain at gynnydd mewn achosion o’r coronafeirws.

Yn ôl yr adroddiad diweddaraf, mae prifysgolion wedi defnyddio eu gwybodaeth, eu harbenigedd a’u profiad i gynorthwyo’r ymdrech genedlaethol – gan fynd ati i gynhyrchu offer meddygol hanfodol, darparu cyfleusterau, arwain ymchwil a chynnig cymorth i’r rhai y mae’r pandemig wedi effeithio arnyn nhw.

‘Diwallu anghenion y cyfnod hwn’

“Mae ein prifysgolion wedi gwneud cymaint eisoes i ddiwallu anghenion y cyfnod hwn, a byddant yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn ein hadferiad trwy eu haddysgu, eu hymchwil a’u harloesedd,” meddai Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

Cafodd yr un neges ei hategu gan yr Athro Julie Lydon, Cadeirydd Prifysgolion Cymru.

“O weithgaredd ymchwil, a chyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol, i ddarparu addysg a sgiliau, bydd prifysgolion yn parhau i wneud cyfraniad cymdeithasol ac economaidd hanfodol i Gymru a’i chymunedau,” meddai.

Cyngor gwyddonwyr wrth i fyfyrwyr ddychwelyd

Mae gwyddonwyr wedi bod yn galw ar brifysgolion a cholegau i ddarparu llety i fyfyrwyr sy’n profi’n bositif fel bod modd iddyn nhw ynysu.

Maen nhw’n dweud bod “risg sylweddol” y gallai addysg uwch arwain at gynnydd lleol a chenedlaethol mewn achosion, a bod angen gweithredu ar lefel genedlaethol er mwyn mynd i’r afael â hyn.

Yn ôl Jo Grady, Ysgrifennydd Cyffredinol UCU, rôl yr undeb ar hyn o bryd yw helpu i atal “argyfwng iechyd cyhoeddus” ac mae’r undeb yn dweud y byddan nhw’n cefnogi unrhyw un sy’n anghydweld â’r ffordd mae prifysgolion a cholegau’n ymdrin â’r sefyllfa.