Mae mwy na hanner y bobol sy’n byw mewn trefi a dinasoedd lle mae prifysgolion, yn ofni gweld myfyrwyr yn dychwelyd yn sgil y pryder y gallai nifer yr achosion o’r coronafeirws godi, gan arwain at ail gyfnod clo lleol.

Mae disgwyl i ddegau o filoedd o fyfyrwyr fynd neu ddychwelyd i’r brifysgol dros y dyddiau nesaf, ac mae arbenigwyr wedi rhybuddio bod hynny’n “debygol iawn” o arwain at fwy o achosion.

Yn ôl pôl gan Survation ar ran undeb prifysgolion a cholegau yr UCU, mae 57% yn ofni rhagor o gyfyngiadau wrth i fyfyrwyr fynd i’r brifysgol, tra bod 48% yn dweud y byddan nhw’n gweld bai ar Lywodraeth Prydain am hynny.

Roedd tua hanner y rhai wnaeth ateb hefyd o’r farn y dylid canslo dysgu wyneb yn wyneb, tra bod 57% yn dweud nad ydyn nhw’n ymddiried mewn systemau olrhain.

Cafodd yr arolwg ei gynnal rhwng Medi 11-14, a chafodd 1,012 o ymatebion eu hystyried o blith pobol dros 18 oed sy’n byw mewn trefi a dinasoedd lle mae prifysgolion.

‘Gwerthu celwydd’

Yn ôl UCU, dylai Llywodraeth Prydain beidio â “gwerthu celwydd” i fyfyrwyr fod modd iddyn nhw gael y profiad llawn o fod yn fyfyrwyr yn ystod pandemig.

Maen nhw’n galw am ddysgu ar-lein yn awtomatig ac mae’r Ysgrifennydd Cyffredinol Jo Grady yn cyhuddo penaethiaid prifysgolion o “greu theatr hylendid i esgus bod sefydliadau’n ddiogel”.

Mae hi hefyd yn rhybuddio na fydd prifysgolion a cholegau’n gallu ymdopi â chynnydd sydyn mewn achosion oni bai bod system olrhain ddibynadwy yn ei lle.

Cyngor gwyddonwyr

Mae gwyddonwyr wedi bod yn galw ar brifysgolion a cholegau i ddarparu llety i fyfyrwyr sy’n profi’n bositif fel bod modd iddyn nhw ynysu.

Maen nhw’n dweud bod “risg sylweddol” y gallai addysg uwch arwain at gynnydd lleol a chenedlaethol mewn achosion, a bod angen gweithredu ar lefel genedlaethol er mwyn mynd i’r afael â hyn.

Yn ôl Jo Grady, rôl yr UCU ar hyn o bryd yw helpu i atal “argyfwng iechyd cyhoeddus” ac mae’r undeb yn dweud y byddan nhw’n cefnogi unrhyw un sy’n anghydweld â’r ffordd mae prifysgolion a cholegau’n ymdrin â’r sefyllfa.

Amddiffyn prifysgolion

Mae Adran Addysg San Steffan wedi amddiffyn prifysgolion.

“Rydym eisoes wedi gweld prifysgolion yn rhoi ystod o fesurau amddiffynnol ar waith, megis cyfyngu ar deithio i’r campws, ymestyn amserau dosbarthiadau dros gyfnod o ddiwrnodau estynedig ac annog hylendid dwylo,” meddai llefarydd.

“Mae ein canllawiau Addysg Uwch sydd wedi cael eu diweddaru yn cynnwys cyngor ynghylch yr hyn y dylai darparwr ei wneud pe bai cyfnod clo lleol, mesurau olrhain, creu aelwydydd newydd mewn llety myfyrwyr ac mae’n adlewyrchu’r cyfyngiadau diweddaraf o ran ymgasglu’n gymdeithasol.

“Mae agor prifysgolion yn rhan o gynllun gweithredu gofalus y prif weinidog, ac mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i agor lleoliadau addysg lle bo’n ddiogel.

“Rydym yn cefnogi dysgu wyneb yn wyneb dim ond lle bo’n bosib ac os caiff canllawiau diogelwch eu dilyn, ond yn gwybod y gall dysgu ar-lein o safon uchel gael ei gyflwyno hefyd pe bai angen.”