Mae dynes 35 oed wedi cael anafiadau difrifol ar ôl i gar rolio i lawr y dibyn a glanio ar lwybr ger traeth yn Abertawe.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad yn y Mwmbwls am oddeutu 2.30yp ddoe (dydd Sadwrn, Medi 19).

Cafodd ei merch fach chwech oed ei hanafu, ond nid yn ddifrifol.

Chafodd gyrrwr 84 oed y car mo’i hanafu.

Yn ôl yr heddlu, dydy anafiadau’r ddynes 35 oed ddim am newid na pheryglu ei bywyd.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.