Mae rhai Ceidwadwyr blaenllaw am geisio atal Boris Johnson, prif weinidog Prydain, rhag cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws newydd heb sêl bendith y Senedd gyfan, wrth iddo baratoi i gyflwyno dirwy o £10,000 i unrhyw un sy’n gwrthod hunanynysu.
Yn ôl Syr Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922, fe fydd e’n cyflwyno cynnig er mwyn atal mesurau newydd rhag cael eu cyflwyno’n awtomatig heb graffu arnyn nhw trwy bleidlais ymhlith aelodau seneddol.
Mae disgwyl iddo dderbyn cefnogaeth aelodau seneddol Ceidwadol sy’n anfodlon ynghylch y pwerau estynedig sydd gan weinidogion heb iddyn nhw orfod cydsynio.
“Ym mis Mawrth, rhoddodd y Senedd bwerau brys ysgubol i’r Llywodraeth ar adeg pan oedd y Senedd ar fin mynd i mewn i wyliau, ac roedd pryder gwirioneddol y gallai capasiti gofal y Gwasanaeth Iechyd fod dan gryn bwysau yn sgil Covid-19,” meddai Syr Graham Brady wrth y Telegraph.
“Rydym yn gwybod nawr fod y Gwasanaeth Iechyd wedi ymdopi’n dda â her y feirws ac mae’r Senedd wei bod yn eistedd ar y cyfan ers mis Ebrill.
“Does dim cyfiawnhad bellach dros weinidogion yn rheoli drwy bwerau brys heb gyfeirio at y prosesau democrataidd arferol.
“Mae’n hanfodol wrth symud ymlaen fod yr holl benderfyniadau enfawr hyn ynghylch bywyd y teulu a’r rhai sy’n effeithio ar swyddi a busnesau pobol yn cael eu gwneud gyda goruchwyliaeth a rheolaeth briodol.”