Mae Prifysgol Abertawe wedi cael gwybod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 12 o’u myfyrwyr wedi profi’n bositif am y coronafeirws.
Dywed y Brifysgol fod eu meddyliau gyda’r myfyrwyr hynny a’u teuluoedd, wrth iddyn nhw roi sylw i iechyd a lles cymuned ehangach y Brifysgol.
Mae’r Brifysgol yn rhoi sicrwydd i’r myfyrwyr, staff, ymwelwyr a’r gymuned ehangach mai eu diogelwch nhw yw eu blaenoriaeth, er eu bod yn deall y bydd pryderon yn sgil y datblygiadau hyn.
Ar y cyd â’r Gwasanaeth Iechyd a Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r Brifysgol yn gweithio yn agos ar y datblygiadau ac yn dilyn strategaeth y cynllun Profi, Olrhain a Diogelu.
Mae Prifysgol Abertawe, dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cadw llygad ar y sefyllfa.
Ar hyn o bryd mae’r Brifysgol a’r neuaddau preswyl ar agor, ond mae nifer o’u canolfannau ar gau a does dim digwyddiadau yn cael eu cynnal.
Yn ôl y Brifysgol, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sefydlu Safle Profi Symudol yno i brofi’n eang ledled cymuned y Brifysgol, ynghyd â mesurau eraill, os yw’r achosion positif yn cynyddu.