“Ysgrifennwch ata’ i” oedd ymateb Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wrth i Aelod Seneddol Merthyr godi pryderon yn San Steffan na fydd rhai o’i etholwyr yn cael eu harian yn ôl am wyliau sy’n gorfod cael eu canslo yn sgil y cyfnod clo lleol.
Mae Gerald Jones yn cynrychioli etholaeth Merthyr Tudful, un o bedair ardal yng Nghymru sydd dan gyfnod clo ers 6 o’r gloch neithiwr (nos Fawrth, Medi 22) wrth i nifer yr achosion o’r coronafeirws gynyddu yno.
Mae cyfyngiadau newydd wedi dod i rym ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Casnewydd a Blaenau Gwent.
Maen nhw’n ymuno â Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, oedd eisoes dan gyfyngiadau llym, ac fe allai sawl ardal arall wynebu cyfyngiadau pe bai nifer yr achosion yn codi eto.
Yn sgil y sefyllfa, mae pobol yn debygol o golli allan yn ariannol os ydyn nhw wedi bwcio gwyliau yn ystod y cyfnod clo.
“Ymhlith y cyfyngiadau mae cyfyngiad ar deithio ar wyliau, sy’n golygu na fydd fy etholwyr yn gallu mynd ar wyliau maen nhw wedi eu cynllunio,” meddai Gerald Jones.
“Ac mae rhai cwmnïau gwyliau yn gwrthod ad-daliadau ar y sail nad yw cyfyngiadau lleol yn dod o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, gan dynnu sylw yn hytrach at gyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar deithio.
“Felly beth all y prif weinidog ei wneud i gefnogi etholaethau, a beth yw ei neges i’r cwmnïau gwyliau hynny?”
Ymateb
Gofyn i Gerald Jones anfon llythyr ato’n amlinellu’r pryderon oedd ymateb Boris Johnson.
“Mr Lefarydd, mae e’n gofyn cwestiwn gwych, a dydy e ddim yn gyfeiliorn dw i, hyd yma, wedi bod yn ymwybodol ohono fe,” meddai.
“Ond pe bai e’n dymuno ysgrifennu ataf gyda manylion am bryderon ei etholwyr, fe fydda i’n sicr yn ei grybwyll.”