Mae Plaid Cymru’n cyhuddo’r Blaid Lafur o fod yn “rhagrithiol tu hwnt” ar ôl iddyn nhw atal eu pleidlais wrth bleidleisio ar welliant i Fil y Farchnad Fewnol er mwyn rhoi llais i Senedd Cymru.
Mae’r ddeddfwriaeth yn golygu newid agweddau o’r setliad datganoli, gan gynnwys rhoi pwerau gwario yn y meysydd datganoledig i San Steffan a dal pwerau newydd ynghylch cymhorthdal gwladol yn ôl.
Byddai gwelliant Plaid Cymru wedi gwarchod y setliad datganoli trwy atal y ddeddfwriaeth rhag dod i rym oni bai bod caniatâd yn cael ei roi gan y llywodraethau datganoledig.
Cyn y bleidlais, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol Jeremy Miles ei fod e’n “croesawu’r cyfle i weithio’n drawsbleidiol yn y Senedd ac yn gobeithio’n fawr y bydd hynny’n parhau”.
Roedd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, hefyd wedi cyhuddo Llywodraeth Geidwadol Prydain o “gipio grym enfawr” trwy’r ddeddfwriaeth, gan “danseilio grymoedd sy’n perthyn i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ers dros 20 mlynedd”.
Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru’n gwrthwynebu hynny “bob cam o’r ffordd”.
Ond er i’r SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd, yr SDLP ac Alliance bleidleisio o blaid y gwelliant, fe wnaeth y Blaid Lafur atal eu pleidlais.
Gyda’r Ceidwadwyr yn erbyn, roedd 350 o bleidleisiau yn erbyn y gwelliant, a dim ond 63 o blaid.
‘Dweud un peth… ond gwneud y gwrthwyneb’
“Mae’n rhagrithiol tu hwnt fod Llafur yn y Senedd yn dweud un peth tra bod Llafur yn San Steffan yn gwneud y gwrthwyneb llwyr,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
“Roedd hwn yn welliant oedd yn hollol gyson â pholisi Llywodraeth Lafur Cymru ar y Bil sâl hwn, gan geisio rhoi’r cyfle i’r Senedd warchod ei phwerau ei hun ac i warchod Cymru rhag San Steffan yn cipio grym.
“Roedd yn gyfle i wneud safiad trawsbleidiol er mwyn amddiffyn datganoli.
“Yn hytrach, fe wnaeth Llafur benderfynu eistedd ar eu dwylo.
“Mae hyn yn ymwrthodiad truenus o gyfrifoldeb ar ran y Blaid Lafur, nid yn unig i’w cydweithwyr yn y llywodraeth ond hefyd i bobol Cymru.”
Ymateb Llafur Cymru
Wrth ymateb, mae Llafur Cymru’n dweud nad oedd Plaid Cymru wedi cefnogi eu gwelliant yr wythnos ddiwethaf “a fyddai wedi cynnal safonau cyffredin, a pharchu’r setliadau datganoli a chyfraith ryngwladol”.
“Fe wnaeth Llafur wrthwynebu’r Bil ar yr Ail Ddarlleniad yr wythnos ddiwethaf,” meddai llefarydd.
“Ddydd Mawrth diwethaf, cafodd gwelliant ei gyflwyno gan y Blaid Lafur a fyddai wedi cynnal safonau cyffredin, a pharchu’r setliadau datganoli a chyfraith ryngwladol – methodd Plaid Cymru â chefnogi hwn.
“Bydd Llafur yn parhau i ddangos arweiniad ar y Bil hwn, byddwn ni’n cyflwyno gwelliannau pellach adeg yr adroddiad ddydd Mawrth yr wythnos nesaf, a byddem yn annog yr holl wrthbleidiau i’w cefnogi.”