Mae nifer o leoliadau yn Abertawe wedi cael eu cau neu wedi derbyn rhybudd am dorri rheolau’r coronafeirws neu am fod yno achosion o’r coronafeirws.

Mae Cyngor Abertawe wedi gorfodi Noah’s Yard yn ardal yr Uplands, a Chick O Land a Swansea Kebab ar Wind Street yng nghanol y dref i gau.

Fydd y lleoliadau ddim yn cael agor am 14 diwrnod, oni bai eu bod yn gallu profi eu bod nhw wedi gwneud gwelliannau.

Yn ogystal, mae’r Cyngor wedi gofyn i Verve 37 yn yr Uplands wneud gwelliannau.

Mae nifer fechan o leoliadau eraill yn y dref wedi cael cyngor anffurfiol i wneud gwelliannau er mwyn osgoi ymyrraeth bellach, yn ôl Cyngor Abertawe.

Mae nifer o dafarndai ledled Cymru eisoes wedi derbyn hysbysiadau i wneud gwelliannau neu i gau.

Cau lleoliadau wedi honiadau am “ganllawiau cymysg”

Yn dilyn ymweliad gan swyddogion o Gyngor Abertawe ddydd Sadwrn (Medi 19), diolchodd Noah’s Yard ar eu tudalen Facebook i’r cwsmeriaid oedd wedi bod yn cadw pellter cymdeithasol.

Er hynny, mae’r neges yn dweud bod y Cyngor wedi cau’r bar “yn dilyn wythnosau o ganllawiau cymysg.”

Dywedodd Noah Redfern, y perchennog, wrth WalesOnline ei fod yn teimlo iddo gadw at y canllawiau.

Mewn datganiad gan Gyngor Abertawe dyweda’r Cynghorydd David Hopkins, sydd yn Aelod Cabinet dros Gyflenwi a Gweithredu ac yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor, eu bod nhw wedi dweud wrth fusnesau “y byddem yn cymryd camau pe baen nhw’n methu â chadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru”.

“Methodd tri o fusnesau â chymryd sylw o rybuddion, ac maen nhw ar gau nawr,” meddai.

“Rydym yn gweithredu er mwyn cadw’r cyhoedd yn ddiogel.

“Mae nifer o fusnesau yn y dref yn gwneud yr un fath, gan gymryd cyfrifoldeb a chadw at y rheolau.”

Mynnodd fod y “rheiny sydd ddim yn cadw at reolau yn rhoi eu cymunedau mewn perygl, ac mae hynny yn annerbyniol”.

“Mae nifer yr achosion o Covid-19 yn parhau i godi, a dydy’r feirws ddim wedi diflannu.

“Ddylai busnesau na chwsmeriaid ddim gallu torri’r rheolau.”

Achosion o’r coronafeirws

Daeth y newydd wedi i dafarn Bank Statement yn Wind Street gyhoeddi bod wyth o’u gweithwyr wedi profi’n bositif am y coronafeirws yn y bythefnos ddiwethaf.

Yn sgil yr achosion, mae’n rhaid i aelodau eraill o staff y dafarn sydd yn rhan o gwmni Wetherspoons, hunanynysu am 14 diwrnod.

Mewn datganiad mae’r cwmni yn nodi eu bod yn “gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Awdurdod Lleol, sydd wedi eu cynghori bod risg isel i gwsmeriaid ddal y feirws yn y dafarn.”

Dylai’r cwsmeriaid “barhau i ddilyn canllawiau pellter cymdeithasol ac unrhyw fesurau eraill sydd wedi cael eu hargymell, gan gynnwys golchi dwylo yn aml”.

“Ers ailagor, mae Wetherspoons wedi gweithredu system cadw pellter cymdeithasol a glanweithdra cynhwysol,” yn ôl y datganiad.

“Mae hyn yn cynnwys lefelau capasiti is, gosod byrddau yn bellach oddi wrth ei gilydd, a gosod sgriniau rhwng byrddau ac o amgylch y bar.

“Er nad yw’n bosib creu awyrgylch gyfan gwbl ddi-risg, mae cadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a gweithredu safonau glanweithdra trwyadl yn lleihau’r risg.”

Sefyllfa Abertawe

Mae Cyngor Abertawe wedi creu ffurflen ar-lein fel bod pobol yn gallu eu hysbysu am bryderon y gallai busnesau fod yn torri cyfraith Llywodraeth Cymru.

Dros yr wythnos ddiwethaf, roedd 25.9 achos o’r coronafeirws ym mhob 100,000 o bobol yn Abertawe ac ar hyn o bryd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadw llygad ar y sefyllfa.

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn erfyn ar bobol i gadw at reolau ac mewn cyfres o drydariadau, maen nhw wedi bod yn apelio ar bobol i ddilyn y canllawiau gan gadw Abertawe a Castell-nedd Port Talbot yn ddiogel.