Bydd ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn costio tipyn llai na’r disgwyl, yn ôl adroddiad newydd.

Traws Link Cymru, sef grŵp Ymgyrch Rheilffordd Gorllewin Cymru, sydd wedi cyhoeddi’r adroddiad ‘Coridor Rheilffordd Strategol Newydd’ sy’n seiliedig ar ymchwil newydd ar ailagor y rheilffordd.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu hadroddiad dichonoldeb ddwy flynedd yn ôl, a hwnnw’n ystyried pa mor ymarferol fyddai ailagor y lein.

Daeth yr astudiaeth honno i’r casgliad nad oedd rhwystrau mawr i ailagor y lein, ac y byddai’r rheilffordd newydd yn costio oddeutu £775m.

Roedd adroddiad 2018 Llywodraeth Cymru yn cadarnhau canfyddiadau astudiaeth gychwynnol 2015, oedd yn nodi bod 97% o’r trac gwreiddiol yn glir a bod gobaith realistig o’i ailagor.

Darganfyddiadau’r adroddiad newydd

Dangosodd y dadansoddiad diweddaraf gan Traws Link Cymru fod diffygion sylweddol yn astudiaeth Mott Macdonald, awdur yr adroddiad gwreiddiol ar ran Llywodraeth Cymru yn 2018.

Yn ôl Adrian Kendon, Cadeirydd Traws Link Cymru, “mae yna hepgoriadau pwysig yn yr adroddiad, a fethodd, er enghraifft, ag ystyried cyflwr y tri thwnnel ar yr hen lwybr ac a oedd hefyd yn tanamcangyfrif poblogaethau dalgylchoedd”.

“Mae ein gwaith pellach ar yr astudiaeth yn datgelu unwaith y bydd y dalgylch chwyddedig o amgylch y gorsafoedd arfaethedig yn cael ei ystyried, mae’r gymhareb cost a budd yn gwella, a chyda dulliau adeiladu modern, gellid lleihau cost ailagor rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin i oddeutu £620 miliwn, 20% yn llai na’r hyn a awgrymwyd yn adroddiad Mott Macdonald,” meddai.

“Byddwn nawr yn anfon ein hadroddiad i wleidyddion y Senedd a San Steffan.

“Bydd yr adroddiad dwyieithog hefyd ar gael i’w lawrlwytho o’n gwefan newydd, yr ydym yn gobeithio ei lansio yn ddiweddarach yr hydref hwn.

“Mae’r adroddiad hefyd yn ail-bwysleisio’r achos cymdeithasol, economaidd, a diwylliannol dros ailagor y rheilffordd.”