Y Maldives yw’r cyrchfan gwyliau mwyaf pobologaidd wrth i bobol Cymru chwilio ar y we am gyrchfan gwyliau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mae ymchwil yn dangos bod rhestrau cwarantîn y coronafeirws yn dylanwadu ar bobol wrth iddyn nhw geisio trefnu gwyliau yn 2021.
Mae Medical Travel Compared, gwefan sy’n cymharu faint mae cwmnïau’n ei godi ar gyfer yswiriant teithio, wedi mynd ati i lunio rhestr o’r gwledydd sy’n ymddangos fwyaf aml wrth i bobol chwilio ar Google am lefydd i fynd iddyn nhw pan fydd cyfyngiadau teithio’n cael eu llacio wedi ymlediad y coronafeirws.
Mae dewis pobol Cymru’n gyson â rhannau deheuol eraill o wledydd Prydain, tra bod pobol yn y rhannau gogleddol, gan gynnwys Gogledd Iwerddon, yn ffafrio Mecsico.
Dyma’r llefydd y gwnaeth pobol yng ngwledydd Prydain chwilio amdanyn nhw fwyaf:
- Ynysoedd y Maldives
- Mecsico
- Bali
- Dubai
- Gwlad Thai
- Twrci
- Barbados
- Groeg
- Jamaica
- Ciwba
Rhagor o ymchwil
Yn gynharach eleni, cafodd 3,000 o deithwyr o wledydd Prydain eu holi gan yr un cwmni am eu gobeithion o deithio y flwyddyn nesaf.
Dywedodd 83% eu bod nhw’n optimistaidd y bydd modd teithio yn 2021.
Er bod pobol yn cynllunio gwyliau’n nes at adref am y tro, dywed Medical Travel Compared fod mwy a mwy o bobol yn dechrau meddwl am fynd dramor eto pan fydd yn ddiogel iddyn nhw deithio.
“Mae’n wych gweld fod hyder i deithio yn 2021 yn uchel ac nad yw Prydeinwyr wedi colli eu hawch i symud er gwaetha’r amryw fesurau clo a chwarantîn sydd yn eu lle ar hyn o bryd,” meddai’r prif swyddog cynnyrch Tommy Lloyd.
“Mae ein hymchwil yn dangos bod Prydeinwyr yn awyddus i ymweld â chyrchfannau nad ydyn nhw ar restr deithio’n rhydd rhag y cwarantîn sydd gan y Deyrnas Unedig.
“Rydym yn gofyn i Lywodraeth Prydain adolygu’r canllawiau teithio ar gyfer pob cyrchfan er mwyn gweld a all unrhyw un o’r gwledydd ar y rhestr teithio’n bell gael eu hychwanegu’n ddiogel.”