Mae Colston Hall ym Mryste wedi newid ei henw i Bristol Beacon.

Cafodd y neuadd gyngherddau ei hadeiladu bron i 150 mlynedd yn ôl, a’i henwi ar ôl Edward Colston, masnachwr caethweision o’r ail ganrif ar bymtheg.

Mae’r newid enw yn dilyn adnewyddu’r adeilad am £49m.

Roedd cynlluniau ar y gweill i newid enw Colston Hall ers tair blynedd, gydag Ymddiriedolaeth Gerdd Bryste yn paratoi i wneud hynny yn ystod 2020.

Edward Colston

Yn y misoedd diwethaf, mae cryn sylw wedi cael ei roi i gysylltiadau Bryste ag Edward Colston a chaethwasiaeth yn sgil protestiadau Black Lives Matter a llofruddiaeth George Floyd ym Minnesota.

Cafodd cofeb i Edward Colston ym Mryste ei dymchwel a’i thaflu i’r harbwr yn ystod protest Black Lives Matter ym mis Mehefin.

Roedd yn gyfrifol am gludo tua 84,000 o ddynion croenddu o arfordir gorllewinol Affrica yn sgil ei waith gyda chwmni Affricanaidd oedd yn masnachu aur, arian, ifori a chaethweision.

Mae nifer o sefydliadau eraill ym Mryste yn asesu eu cysylltiadau â Colston, gan gynnwys dwy ysgol sy’n dwyn ei enw.

“Symbol o obaith a chymuned”

“Rydym yn ymwybodol bod ein henw presennol, enw’r masnachwr caethweision Edward Colston, yn golygu nad yw pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu i neuadd gyngherddau’r ddinas, nac yn perthyn iddi,” meddai’r neuadd mewn datganiad.

“Os nad ydym ni’n gallu rhannu pleser cerddoriaeth fyw gyda phawb, yna mae’n rhaid i rywbeth newid.”

Ar eu gwefan, mae Bristol Beacon yn nodi na allan nhw “fod yn gofeb ragor i rywun a chwaraeodd ran mor flaenllaw yn y fasnach gaethweision”.

Cafodd yr enw newydd ei gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Medi 23) yng nghyntedd y neuadd, ond doedd dim cynulleidfa fyw yno.

Yn ystod yr agoriad, cafodd cerdd gan Vanessa Kisuule ei hadrodd drwy ffilm fer ac yn honno y cafodd yr enw newydd ei gyhoeddi am y tro cyntaf.

Mae’r neuadd eisioes wedi diweddaru eu cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol, a chafodd y ffilm fer ei phostio ar Twitter.

“Croeso i Bristol Beacon,” meddai’r neges ar Twitter.

“Symbol o obaith a chymuned. Lle croesawgar, cynnes llawn goleuni. Gwahoddiad agored i’r ddinas i bawb gael dod yma a rhannu hyfrydwch cerddoriaeth fyw.”