Mae teulu dyn 60 oed a gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad ger Llandeilo ar Fedi 9 wedi talu teyrnged iddo.

Mae Mandy Jones wedi talu teyrnged i’w gŵr, Iwan Lloyd Jones, gan ddweud ei fod “yn ŵr addfwyn, hael, meddylgar a chariadus”.

“Roedd yn ffrind gorau i mi yn ogystal ag yn ŵr, roeddem yn eneidiau hoff cytûn,” meddai wedyn.

“Mae wedi gadael bwlch mawr yn fy nghalon, ond rwy’n cael cysur o wybod y bydd o’m cwmpas am byth ac yn edrych ar fy ôl.

“Bydd pawb yn gweld ei eisiau’n fawr.

“Cwsg mewn hedd, cariad bach, cysga’n dawel. Caru ti.”

Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i unrhyw un a welodd y ddamwain, neu sydd â fideo o’r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.