Mae’r prif weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi na fydd cyfyngiadau lleol yn cael eu cyflwyno mewn rhagor o ardaloedd am y tro.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru alw cyfarfod brys o’r holl awdurdodau lleol, byrddau iechyd a heddluoedd, o Ben-y-bont ar Ogwr i’r ffin â Lloegr ddoe (Medi 22).
Mae chwe ardal eisoes â chyfyngiadau lleol i fynd i’r afael a’r cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws: Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd.
Ond ychwanegodd y gallai siroedd eraill wynebu cyfyngiadau tebyg pe byddai rhaid gwneud hynny.
“Does dim achos eto i ehangu’r mesurau yma i awdurdodau lleol eraill ond fe fyddwn ni yn cadw llygaid arnynt ac yn eu hadolygu yn ddyddiol,” meddai Mark Drakeford.
‘Darlun cymysg’
Yn ystod cynhadledd i’r wasg heddiw (Medi 23) eglurodd y prif weinidog fod “darlun cymysg” ar draws y wlad – ond bod achosion ar gynnydd yng Nghymru yn gyffredinol ar ôl gostwng dros yr haf.
Dywedodd fod y gyfradd yng Nghymru bellach yn 46.8 achos i bob 100,000 o bobl a bod “tuedd clir tuag i fyny”.
“Mewn rhai rhannau o Gymru, yn enwedig yr ardaloedd yn ne Cymru ble ry’n ni wedi cyflwyno cyfyngiadau lleol, mae lefelau uchel o’r haint a thystiolaeth ei fod yn lledu yn y gymuned,” meddai’r Prif Weinidog.
“Ond yn y gorllewin ac mewn rhannau o ogledd Cymru mae’r cyfraddau yn llawer is.”
Ychwanegodd bod ysbytai wedi dechrau gweld mwy o gleifion sydd angen triniaeth oherwydd y coronafeirws a bod mwy o farwolaethau.
Wythnos diwethaf derbyniodd 70,000 o bobol yng Nghymru ganlyniad prawf.
Sefyllfa wahanol rhannau eraill o Brydain
“Yn ffodus dydyn ni ddim yn wynebu’r un pwysau â rhannau eraill o Brydain, diolch yn rhannol i’r agwedd fwy gofalus rydyn ni wedi dilyn yma yng Nghymru, a’r mesurau wnaethon ni gadw yn eu lle, fel cynghori pobol i weithio o adref pan fo’n bosib,” meddai.
Er hynny ychwanegodd bod angen y cyfyngiadau newydd gafodd eu cyhoeddi ddoe er mwyn osgoi argyfwng arall.
Gadael y dafarn am 10yh?
Ymhlith cyfres o fesurau cenedlaethol er mwyn lleihau peryglon y coronafeirws, mae’n ofynnol i dafarndai gau am 10yh.
Eglurodd Mark Drakeford y dylai tafarndai roi’r gorau i werthu alcohol am 10yh ac na fyddai’n rhaid i dafarndai hel pobol o’r dafarn am 10yh.
Bydd hyn yn rhoi amser rhesymol i bobol orffen eu bwyd a diod cyn dychwelyd adref meddai’r Prif Weinidog.
Dim ‘rheol leol’ ar hyn o bryd
“Y canllaw allweddol yw i bobol feddwl yn ofalus am yr hyn y maent yn ei wneud a gwneud dewisiadau synhwyrol”, meddai Mark Drakeford.
Eglurodd ei fod wedi ystyried a ddylai Cymru fynd yn ôl i’r rheol aros yn lleol, ond dywedodd iddo benderfynu nad oedd angen hyn yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobol osgoi teithio diangen, ac am hynny dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Breakfast: “Cyngor i bobol yw e, fydd e ddim yn cael ei heddlua yn yr ystyr gonfensiynol.
“Rydyn ni’n apelio at bobl i feddwl yn ofalus iawn am deithiau maen nhw’n eu gwneud.”
Dywedodd Mr Drakeford fod y neges “aros yn lleol” flaenorol yng Nghymru yn “sicr yn llwyddiannus” o ran diogelu de-orllewin a gogledd Cymru rhag lledaeniad Covid-19.
“Y mwyaf o bobl rydyn ni’n eu cyfarfod, y mwyaf o deithiau rydyn ni’n eu gwneud, y mwyaf o risgiau sydd i ni ein hunain ac eraill,” ychwanegodd.
“Felly mae’n apêl i bobl feddwl yn ofalus am y teithiau hynny.
“Os oes angen, rhaid i chi eu gwneud. Os nad oes angen, peidiwch â theithio oni bai fod yn rhaid i chi wneud hynny. Dyna’r neges yma yng Nghymru.”
Dim gwyliau?
Yna, dywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4 yn ddiweddarach: “Yr hyn rwy’n gofyn i bobl yng Nghymru ei wneud yw meddwl bob tro y byddant yn gwneud taith.”
Pan ofynnwyd iddo a oedd hynny’n golygu dim gwyliau, atebodd Mr Drakeford: “Wel, mae’n bosibl iawn cael gwyliau yng Nghymru heb deithio’n bell iawn o gwbl.
“Mae pobl yn mynd i wneud y penderfyniadau hynny yn eu hamgylchiadau eu hunain felly dydyn ni ddim yn dweud dim gwyliau wrth bobl.”
Dywedodd y dylai pobl yn Lloegr hefyd feddwl yn “ofalus iawn” cyn gwneud teithiau nad ydynt yn hanfodol i Gymru.
Ond dywedodd Mr Drakeford wrth y BBC ei fod yn “weithred gydbwyso anodd” rhwng anghenion yr economi ac iechyd y cyhoedd.
£500 i gefnogi pobol sydd ar incwm isel i hunanynysu
Yn ystod y gynhadledd fe wnaeth Mark Drakeford gadarnhau y bydd arian ar gael i roi cymorth i bobol sydd ar gyflogau isel sy’n gorfod hunan ynysu.
“Byddwn yn darparu taliad o £500 i gefnogi pobol sydd ar incwm isel sy’n cael ei gofyn i hunan ynysu,” meddai.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud newid i’r gyfraith er mwyn atal cyflogwyr rhag ei gwneud yn anodd i weithwyr hunanynysu.